Ysgol Felinwnda

Ar ddydd Mawrth 7 Tachwedd 2023, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Gwynedd yn derfynol y cynnig i gau Ysgol Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023, a’r disgyblion presennol i drosglwyddo i ysgol amgen cyfagos, sef Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, yn unol â dewis rhieni, o 1 Ionawr 2024. 

Daeth y penderfyniad yn dilyn cynnal cyfnod gwrthwynebu ar y cynnig rhwng 5 Medi a 4 Hydref 2023. Derbyniwyd 4 gwrthwynebiad i’r cynnig a cyflwynwyd adroddiad gwrthwynebu i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 7 Tachwedd 2023.  

Mae’r adroddiad a’r atodiadau a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 7 Tachwedd 2023 (Adroddiad Gwrthwynebu) sy’n cynnwys crynodeb o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu ac ymateb y Cyngor iddynt ei gyhoeddi isod yn ogystal ag ar dudalen y Cabinet 7 Tachwedd 2023 (eitem 6) . 

Yn dilyn ystyriaeth fanwl o’r cynnig, penderfynodd Cabinet y Cyngor fel a ganlyn:

  • Cymeradwywyd yn derfynol y cynnig o dan Adran 43 o’r Ddeddf Safonau a threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023, a’r disgyblion presennol i drosglwyddo i ysgol amgen cyfagos, sef Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, yn unol â dewis rhieni, o 1 Ionawr 2024. 
  • Cymeradwywyd trefniadau cludiant ar gyfer y cyfnod trosiannol yn unig, fyddai’n cynnig cludiant am ddim i’r dysgwyr rheini sydd wedi cofrestru yn Ysgol Felinwnda ar hyn o bryd, ac yn byw yn nalgylch Ysgol Felinwnda, i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, am weddill cyfnod y dysgwr yn un o’r ysgolion rheini, yn unol â pholisi cludiant Cyngor Gwynedd. 
  • Caniatawyd cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol dalgylch presennol Ysgol Felinwnda er mwyn cytuno pa ysgol, neu ysgolion, fydd yn gwasanaethu fel ysgol dalgylch i blant dalgylch presennol ysgol Felinwnda i’r dyfodol. 

Yn unol â chyfansoddiad Cyngor Gwynedd, daeth penderfyniad y Cabinet yn weithredol ar 22 Tachwedd 2023 a cyhoeddwyd a cylchredwyd llythyr penderfyniad i’r holl ran-ddeiliaid. 

Mae’r llythyr penderfyniad a’r adroddiad gwrthwynebu ar gael isod:


Gwybodaeth bellach

Yn unol â phenderfyniad y Cabinet ar 11 Gorffennaf 2023, cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu statudol rhwng 5 Medi a 4 Hydref 2023 ar y cynnig i gau Ysgol Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023. Derbyniwyd 4 gwrthwynebiad i’r cynnig a cyflwynwyd adroddiad gwrthwynebu i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 7 Tachwedd 2023.  

Yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018 mae Adroddiad Gwrthwynebu wedi ei chyhoeddi isod, sy’n cynnwys crynodeb o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu ac ymateb y Cyngor iddynt.  

Yn ei gyfarfod ar 11 Gorffennaf 2023, yn dilyn trafod cynnwys yr adroddiad a gwrando ar sylwadau’r Aelod Lleol bu i'r Cabinet benderfynu: 

  1. Cymeradwyo cychwyn y broses i gau Ysgol Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023 o dan adran 43 Deddf Safonau a Threfniadaeth (Cymru) 2013.
  2. Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol, ar y cynnig i gau Ysgol Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023, gan ganiatáu cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod yn unol â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018, a’r disgyblion presennol i drosglwyddo i ysgol amgen cyfagos, sef Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, yn unol â dewis rhieni, o 1 Ionawr 2024.
  3. Cymeradwyo trefniadau cludiant ar gyfer y cyfnod trosiannol yn unig, fyddai’n cynnig cludiant am ddim i’r disgyblion hynny sydd wedi cofrestru yn Ysgol Felinwnda ar hyn o bryd, ac yn byw yn nalgylch Ysgol Felinwnda, i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, am weddill cyfnod y dysgwr yn un o’r ysgolion hynny, yn unol â pholisi cludiant Cyngor Gwynedd.
  4. Yn amodol ar benderfyniad y Cabinet ynglŷn â’r cynnig i gau Ysgol Felinwnda, caniatáu cynnal adolygiad o  ffiniau dalgylchol ysgolion sy’n ffinio dalgylch presennol Ysgol Felinwnda. 

Yn unol â’r penderfyniadau uchod, cyhoeddwyd Rhybudd Statudol ar 5 Medi 2023

Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r rhybudd hwn, hynny yw erbyn 4 Hydref 2023.

Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig at sylw’r Pennaeth Addysg:

Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

neu drwy anfon neges e-bost at sylw’r Pennaeth Addysg: 
moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru

Yn dilyn cynnal y cyfnod gwrthwynebu, bydd adroddiad gwrthwynebu yn cael ei gyflwyno i Cabinet er mwyn iddynt ystyried unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir cyn dod i benderfyniad terfynol.

Ar sail CYBLD (Cyfrifiad Ysgolion Blynyddoedd ar Lefel Disgyblion) Ionawr 2023, Ysgol Felinwnda yw’r ysgol leiaf yn y sir, gyda dim ond 8 o ddysgwyr. O ganlyniad, bu i’r Adran Addysg gyflwyno adroddiad i Cabinet ar 11 Gorffennaf 2023 yn gofyn am ganiatâd i gynnal cyfnod gwrthwynebu statudol ar y cynnig i gau Ysgol Felinwnda yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a chod statudol Llywodraeth Cymru (Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018).  

Mae adran 48(3) Deddf 2013 yn darparu nad yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i gynigion i gau ‘ysgol fach’ fel y diffinnir 

yn y Ddeddf, ac mae  Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018 yn darparu:  

“Os oes gan ysgol lai na 10 disgybl cofrestredig (neu os nad oes unrhyw ddisgyblion ar ôl mewn ysgol) pan gynhelir y cyfrifiad ym mis Ionawr, mae Deddf 2013 yn caniatáu i gyrff llywodraethu/awdurdodau lleol ddilyn gweithdrefn symlach er mwyn cau’r ysgol yn swyddogol. 

Yr unig beth y byddai’n ofynnol iddynt ei wneud o dan y weithdrefn honno fyddai cyhoeddi’r hysbysiad cau – byddai’r gofyniad i ymgynghori’n gyffredinol yn cael ei hepgor, cyhyd â bod digon o leoedd mewn ysgolion cyfatebol wedi'u nodi a fyddai'n rhesymol hygyrch i’r disgyblion hynny sydd wedi’u dadleoli neu a allai gael eu dadleoli.” 

Gan fod llai na 10 o ddysgwyr cofrestredig yn Ysgol Felinwnda yn CYBLD Ionawr 2023, mae Cod Trefniadaeth Ysgolion yn caniatáu’r awdurdod i ddilyn gweithdrefn symlach er mwyn cau’r ysgol. Yn benodol, mae’r gofyniad i ymgynghori’n gyffredinol yn cael ei hepgor, a’r unig beth fyddai’n ofynnol ei wneud fyddai cyhoeddi’r hysbysiad statudol.