Telerau ac Amodau

Telerau ac amodau cofrestru am gyfrif hunanwasanaeth personol / busnes

  1. Dim ond pobl 16 oed neu hŷn all gofrestru am gyfrif personol neu gyfrif busnes.
  2. Gallwch greu cyfrif ar ran pobl iau na 16 oed ond chi fydd yn gyfrifol amdano.
  3. Os ydych yn cofrestru ar ran rhywun arall, rhaid cael eu caniatâd.
  4. Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru sy’n cael defnyddio’r system – mae ceisio mynd i mewn i’r system heb awdurdod neu geisio mynediad at ddata yn y system heb awdurdod yn drosedd dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.
  5. Os nad ydych yn sicr fod gennych hawl defnyddio’r gwasanaeth, allgofnodwch yn syth.
  6. Does dim rhaid i chi fyw yng Ngwynedd i gofrestru am gyfrif.
  7. Pan fyddwch yn creu cyfrif byddwn yn gofyn am eich enw, eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Byddwch yn gallu mynd ymlaen wedyn i gwblhau eich proffil gan ddarparu rhif(au) ffôn, cyfeiriad ayyb. Os na fydd eich proffil wedi'i gwblhau, byddwn yn defnyddio rhai ffurflenni ar-lein rydych yn eu cwblhau i lenwi eich proffil yn awtomatig, e.e. os ydych yn llenwi ffurflen ar-lein gan ddarparu eich cyfeiriad a'ch rhif ffôn byddwn yn trosglwyddo'r data hwn i'ch proffil yn awtomatig os nad yw yna'n barod.
  8. Nid oes gennych hawl i gysylltu cyfrif(on) i gyfrif arall heb ganiatâd deilydd y cyfrif hwnnw.
  9. Gallwch newid manylion yn eich cyfrif drosoch eich hun.
  10. Os na fyddwch yn llwyddo i fewngofnodi i’ch cyfrif yn dilyn 5 ymgais byddwch yn cael eich cloi allan o’r system am gyfnod o 30 munud.
  11. Byddwn yn trin eich holl wybodaeth yn unol â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data; Cyngor Gwynedd yw’r Rheolwr Data dan y ddeddf honno. Gallwch weld polisi preifatrwydd y Cyngor ar y wefan.
  12. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yn eich cyfrif i ddarparu gwasanaethau, creu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau eraill a rhwystro twyll neu drosedd yn unig. Mae unrhyw wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni yn cael ei chadw mewn cronfeydd data sy’n eiddo naill ai i Gyngor Gwynedd neu gorff mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau ar-lein ar ei ran.
  13. Gall gwasanaethau’r Cyngor sy’n defnyddio’r cronfeydd data ddefnyddio’r wybodaeth i’ch adnabod. Gallwn hefyd eu defnyddio i’ch hysbysu am unrhyw newidiadau i wasanaethau / gwasanaethau eraill allai fod yn addas i chi os ydych wedi dewis hynny.
  14. Ni fyddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i gwmnïau, busnesau nac unigolion trydydd parti, oni bai fod y gyfraith yn mynnu hynny.
  15. Mae Cyngor Gwynedd yn cadw’r hawl i ddiddymu eich cyfrif ar unrhyw adeg os yw’n amau eich bod yn camddefnyddio’r cyfrif.
  16. Mae Cyngor Gwynedd yn cadw’r hawl i’ch e-bostio ynghylch problemau yn ymwneud â’ch cyfrif / i roi gwybod i chi am newidiadau i’ch cyfrif, e.e. gorfod ailosod cyfrinair.
  17. Bydd Cyngor Gwynedd yn dileu eich cyfrif os nad ydych wedi mewngofnodi i'ch cyfrif am gyfnod o 18 mis neu fwy. Os ydych yn dymuno cael cyfrif eto, bydd yn rhaid i chi gofrestru am un newydd.
  18. Os ydych yn dymuno cau eich cyfrif, gallwch wneud hynny drwy fewngofnodi i'ch cyfrif a mynd i'r adran 'Manylion Cyfrif' ac yna 'Dileu Cyfrif'. Os nad ydych yn gallu cael mynediad i'ch cyfrif er mwyn ei ddileu, llenwch ein ffurflen Ymholiad cyffredinol. Bydd cau’r cyfrif yn golygu bod eich holl wybodaeth proffil yn cael ei thynnu ond bydd data ynghylch ceisiadau gwasanaeth yn cael ei gadw yng nghronfeydd data Cyngor Gwynedd neu gorff mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau ar-lein ar ei ran. Os ydych wedyn yn dymuno cael cyfrif eto, bydd yn rhaid i chi gofrestru am un newydd.
  19. Mae cofrestru am gyfrif yn golygu eich bod yn cytuno â'r telerau ac amodau hyn.


Ymwrthodiad atebolrwydd

Er bod pob ymdrech wedi ei wneud i sicrhau bod yr wybodaeth ar dudalennau gwefan Cyngor Gwynedd yn gywir, mae’n bosib y gall rhai manylion newid. Mae Cyngor Gwynedd yn adolygu ac yn datblygu’r cynnwys yn gyson. Os ydych yn amau cywirdeb, cysylltwch â’r Cyngor ar 01766 771000 neu llenwch ein ffurflen Ymholiad cyffredinol.

Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud pob ymdrech i wirio ffeiliau sydd ar gael i'w lawrlwytho ar y safle am firysau. Nid yw’r Cyngor yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu niwed sy'n digwydd o ganlyniad i lawrlwytho deunydd oddi ar wefan y Cyngor. Yr ydym yn argymell y dylai defnyddwyr ailwirio pob deunydd a lawrlwythir gyda'u meddalwedd gwrth-firws eu hunain. 


Gwefannau allanol

Mae yna nifer helaeth o gysylltau i wefannau allanol ar ein gwefan. Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gynnwys unrhyw un o'r gwefannau trydydd parti hyn mewn unrhyw ffordd.