Moderneiddio Addysg

Y Weledigaeth

Yn 2009 cymeradwyodd y Cyngor Llawn strategaeth i ad-drefnu ysgolion y Sir.

Mae strategaeth ad-drefnu ysgol Gwynedd yn adnabod chwe phrif amcan:

  • dosbarthiadau addas ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel
  • hyrwyddo a chryfhau'r iaith Gymraeg
  • datblygu cynllun hir dymor rhagweithiol a chreadigol
  • gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael
  • creu amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf i blant ac athrawon y Sir
  • datblygu ysgolion yn sefydliadau sy'n ganolbwynt i weithgareddau cymunedol.

Prosiectau sydd ar y gweill

Prosiectau sydd wedi eu cwblhau

Rhaglen Ad-drefnu Ysgolion

Mae’r rhaglen ad-drefnu ysgolion yn edrych ar ysgolion o fewn dalgylchoedd, ac drwy gynnal proses ymgynghori, yn datblygu modelau ad-drefnu posib ar gyfer yr ysgolion hynny.

Mae’r rhaglen yn edrych ar sawl agwedd wrth weithredu unrhyw newid, gan ystyried:

  • ansawdd addysg
  • nifer disgyblion
  • nifer llefydd gweigion
  • ansawdd ac addasrwydd adeiladau
  • sefyllfa arweinyddiaeth a phethau eraill.

 

Rhaglen Ysgolion yr unfed ganrif ar hugain

Mae’r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn gynllun sy’n adeiladu ac uwchraddio ysgolion ar draws y Sir.

Mae’r prosiectau yma’n cael ei gyllido yn rhannol gan Llywodraeth Cymru a buddsoddiad gan Gyngor Gwynedd.

Dyma rai o’r ysgolion sydd wedi/ neu a fydd yn elwa o’r rhaglen 21ain Ganrif:

  • Ysgol yr Hendre (agorodd Ebrill 2012)
  • Ysgol anghenion arbennig newydd i gymryd lle Ysgol Hafod Lon, i wasanaethu ardal Dwyfor a Meirionnydd (i’w lleoli yn ardal Penrhyndeudraeth)
  • Adeilad newydd i Ysgol Glancegin, Maesgeirchen, Bangor


Atodiadau