Telerau ac amodau - Tocyn Parcio Tymhorol (Morwrol)

  • Mae’r tocyn parcio tymhorol yn ddilys ar gyfer y lleoliad a ddewiswyd yn unig – ni all tocyn gael ei defnyddio mewn unrhyw faes parcio neu draeth arall o fewn y sir.
  • Nid yw tocyn parcio tymhorol yn sicrhau bod gofod parcio neilltuedig ar eich cyfer. 
  • Rhaid arddangos y tocyn parcio tymhorol mewn man amlwg a gweladwy tu mewn i ffenestr flaen y cerbyd.  Bydd Swyddogion y Cyngor yn goruchwylio’r maes parcio a’r traeth yn rheolaidd.
  • Nid yw’r tocyn parcio yn drosglwyddadwy – mae’r tocyn ond i’w ddefnyddio ar y cerbyd mae wedi’i neilltuo ar ei gyfer. 
  • Bydd manylion unrhyw gerbyd sy’n arddangos tocyn ffug yn cael eu cyfeirio at yr Heddlu. 
  • Bydd cost am adnewyddu tocyn colledig / ddifrodedig. 
  • Mae cyfrifoldeb am ddiogelwch y cerbyd ac unrhyw eiddo a adawir ynddo yn disgyn ar berchennog y cerbyd. 
  • Mae’r tocyn parcio tymhorol yn cael ei gyhoeddi ar sail y rheolau a bennwyd gan Gyngor Gwynedd, a gellir ei diddymu ar unrhyw adeg, a heb unrhyw rybudd, os na chydymffurfir a’r rheolau. 
  • Mae Cyngor Gwynedd gyda’r hawl i wrthod adnewyddu tocyn parcio tymhorol os yw'r deilydd yn gyson wedi torri'r rheolau a'r amodau perthnasol, neu yn fwriadol wedi atal neu rwystro swyddogion y Cyngor rhag cyflawni eu dyletswyddau. 
  • Morfa Bychan yn unig – bydd yn orfodol i’r rhai sy’n gymwys i gael gostyngiad, h.y. y rhai sydd yn byw yn barhaol o fewn ffin Cyngor Tref Porthmadog neu drigolion sy’n byw yn barhaol yng Ngwynedd, i ddangos prawf cyfeiriad wrth gasglu’r tocyn parcio tymhorol (e.e. bil cyfleustodau neu drwydded yrru). Ni fydd tocynnau parcio yn cael eu cyflwyno heb brawf cyfeiriad.


Eich Manylion Personol
 

Defnyddir y wybodaeth ar y ffurflen i brosesu eich cais yn unig.  Ni fydd yn cael ei rhannu tu allan i’r Cyngor. Mwy o wybodaeth a manylion y Swyddog Diogelu Data Cyngor Gwynedd