Diogelu data

Mae angen i’r Cyngor gasglu a defnyddio gwybodaeth am unigolion er mwyn darparu gwasanaethau.

Deddfwriaeth diogelu data sy’n sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn briodol.

Gwneud cais i weld gwybodaeth amdanoch chi eich hun...

Mae gennych hawl i gael copi o'r wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanoch fel unigolyn.

Nid oes ffi am wneud hyn.

Mi fedrwch chi wneud hyn trwy:

Anfonwch y ffurflen gyda'r dogfennau uchod at:

Uwch Swyddog Statudol Diogelu Data
Gwasanaeth Rheoli Gwybodaeth
Swyddfa'r Cyngor
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH 

Mae angen i ni ymateb o fewn mis i dderbyn y cais neu unrhyw eglurhad sydd ei angen o’r wybodaeth rydych eisiau. Os ydi’r cais yn gymhleth neu bod llawer ohonynt, gallwn roi 2 fis ychwanegol ond bydd rhaid i ni sgwennu atoch o fewn un mis yn egluro pam.

Byddwch yn cael copi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi neu byddwn yn rhoi gwybod i chi nad oes gan y Cyngor unrhyw wybodaeth amdanoch chi. 

Pethau y byddwn yn rhannu hefo chi:

  • Pwrpas y prosesu
  • Pwy fydd yn derbyn y wybodaeth
  • Categorïau o ddata personol
  • Ffynhonnell y wybodaeth
  • Am ba mor hir fyddwn yn cadw'r data
  • Yr hawl i wneud cwyn
  • Gwybodaeth am hawliau i gywiro, dileu, gwrthwynebu neu gyfyngu prosesu
  • Os ydi chi wedi bod yn destun proses gwneud penderfyniadau yn awtomatig neu broffilio

Mae’n bosib na fyddwn yn medru rhoi gwybodaeth i chi - sef gwybodaeth bersonol a fyddai’n amharu ar y gallu i atal neu ddatrys troseddau; cyngor cyfreithiol rydym wedi ei dderbyn neu ddata personol a fyddai’n adnabod person arall ac nid ydym wedi derbyn eu caniatad I ddatgelu’r wybodaeth yma.

Os yw ceisiadau yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol (yn arbennig os ydynt yn rhai ailadroddus), byddwn yn codi ffi rhesymol am y costau gweinyddol neu yn gwrthod delio efo’r cais.

Mae’n ofynnol i ni fel Cyngor ddweud wrthych sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol. Mae datganiadau preifatrwydd gwasanaethau’r Cyngor ar gael yma 

Bwriad Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yw gwneud rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau yn haws.  

Mae’r Cyngor wedi cytuno i greu cytundebau rhannu gwybodaeth efo partneriaid er mwyn gwneud yn siŵr bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n deg a diogel.

Mae rhestr o’r cytundebau yma ar gael ar yma Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru.

 

Teledu Cylch Cyfyng (TCC)

Mae gan y Cyngor nifer o systemau Teledu Cylch Cyfyng (TCC) er mwyn gwarchod eiddo ac atal / datrys troseddau. Gan fod y camerâu yn recordio unigolion, mae eu defnydd yn dod o dan ddeddfwriaeth diogelu data.  

Efallai fydd gennych hawl i weld delweddau TCC ohonoch chi eich hun ac i ofyn am gopi ohonynt. Weithiau, mae’n bosib na fyddwn yn eu rhyddhau, e.e. os ydi’r delweddau yn rhan o ymchwiliad troseddol, achos sifil neu mae’n dangos unigolion eraill.

Lleoliadau TCC (CCTV)

Gweld map lleoliad camerau TCC Gwynedd

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: cctvcyngorgwynedd@gwynedd.llyw.cymru

 

Datganiad prefatrwydd