Pryd mae'r gwastraff yn cael ei gasglu?

I weld eich dyddiad casglu nesaf, neu i lawrlwytho eich calendr rhowch eich cod post yn y blwch isod…. .

 

Calendrau

Gallwch lawrlwytho ac argraffu calendr 2024 rŵan! Rhowch eich cod post yn y bocs uchod, dewis eich cyfeiriad, a chlicio ar ‘calendr gwastraff ac ailgylchu’.

Trefn casglu

  • Bocs glas ailgylchu / cartgylchu
    Bob wythnos
  • Bin brown bwyd
    Bob wythnos
  • Bin olwyn gwyrdd / hyd at 3 bag du (os nad oes gan eiddo fin olwyn)
    Bob 3 wythnos 
  • Bin olwyn brown (gwastraff gardd)
    Archebu casgliad gwastraff gardd

 

Bydd yn cael ei gasglu rhwng 06:00 a 18:00 ar ddiwrnod eich casgliad.

Ni fyddwn o reidrwydd yn casglu yr un amser bob wythnos. Rhowch eich gwastraff allan y noson cyn eich casgliad.

 

Peidiwch â chyflwyno’r cynwysyddion yn gynharach na’r noson cyn y casgliad. Gwnewch yn siŵr bod eich cynwysyddion sbwriel ac ailgylchu yn cael eu rhoi tu fewn i gwrtil eich eiddo cyn gynted â phosib ar ôl y casgliad.