Casglu Gwastraff Gardd (bin brown)

Rhaid talu £37 y flwyddyn i gasglu gwastraff gardd (bin brown). 

Gwneud cais casglu gwastraff gardd

Telerau ac amodau gwastraff gardd

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)


Pris

£37 y flwyddyn am

  • 22 casgliad mewn blwyddyn
  • gwagio 1 bin olwyn brown bob pythefnos  

NID oes casgliad dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, nac yn ystod mis Ionawr. 

Dyma'r pris am y flwyddyn yn rhedeg o'r wythnos yn cychwyn 5 Chwefror 2024 hyd at wythnos gyntaf mis Rhagfyr 2024. Gallwch archebu’r gwasanaeth unrhyw dro yn ystod y flwyddyn, ond bydd y ffi blynyddol yn aros yr un fath.

 

Biniau ychwanegol

Gall pob cartref archebu hyd at 4 casgliad bin brown:

  • £31 y flwyddyn am bob bin brown ychwanegol. 

 

Pryd mae fy ngwastraff gardd yn cael ei gasglu? 

Rhowch eich côd post yn y blwch isod i ddod o hyd i'ch diwrnod casglu

 

Sut fydd y gwasanaeth yn gweithio?

Wedi i chi dalu, byddwch yn derbyn y sticer drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith (gall gymryd yn hirach yn ystod cyfnodau prysur). Rhaid ei osod o gwmpas eich bin olwyn brown.
Nodwch: Fyddwch chi ddim yn cael bin newydd, dim ond sticer i'w osod arno. Os na fyddwch wedi derbyn y sticer drwy'r post cysylltwch â ni

Archebwch bin brown gwastraff gardd newydd yma (dim taliad ychwannegol)

Cwestiynau Cyffredin

 

Trafferth gyda'ch gwasanaeth?

Bin brown ar goll/ wedi malu

Adrodd casgliad wedi ei fethu

 

Gwybodaeth Bellach

Am fwy o wybodaeth, neu i archebu a thalu dros y ffôn, ffoniwch 01766 771000.

Gallwch hefyd archebu a thalu yn unrhyw un o Siopau Gwynedd