Hyfforddwr: Andrew Guy
Hyd: Recordiad gweminar 1 awr
Iaith: Cymraeg
Cyflwyniad i gymorth ymddygiad cadarnhaol.
Bydd y gweminar hwn, yn eich tywys drwy brif egwyddorion PBS, yn edrych ar arferion gwaith a sut y gallwch addasu i ddiwallu anghenion unigol yn llawn mewn ffordd gadarnhaol a pharchus. Ymddygiad yw cyfathrebu a bydd y gweminar hwn yn rhoi rhywfaint o arweiniad ymarferol i chi sut i ymateb yn briodol
Clicliwch yma i wylio.
Adnodd Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol Teuluol Unwaith i Gymru
Mae'r adnodd Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol Teuluol Unwaith i Gymru wedi'i ddylunio i uwchsgilio a grymuso teuluoedd ledled Cymru.
Cyd-gynhyrchwyd yr adnodd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol Unwaith i Gymru i deuluoedd, gan Gwelliant Cymru, Sefydliad Anableddau Dysgu Prydain (BILD) a Fforwm Cymru Gyfan. Fe'i cynlluniwyd i wella sgiliau a grymuso teuluoedd ledled Cymru. Teuluoedd yw'r arbenigwyr ar eu hanwyliaid ac maent yn bartneriaid allweddol o ran darparu'r gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Mae'r adnodd hwn ar gael i deuluoedd sy'n cefnogi unigolion ag anabledd dysgu trwy gydol eu hoes.
https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/gwelliant-cymru/ein-gwaith/rhaglen-gwella-iechyd-anabledd-dysgu/cymorth-ymddygiad-cadarnhaol/