Poeni am oedolyn mewn perygl

Os ydych yn meddwl bod person mewn perygl o gael eu cam-drin mae’n bwysig iawn gadael i'r Cyngor neu’r heddlu wybod.

Ffoniwch: 

  • 01766 772577 (Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd)

neu

  • 01248 353551 (rhif y tu allan i oriau arferol):  

  • Os yw'r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu'n syth - 999. 

Mathau o gamdriniaeth

  • cam-drin corfforol: taro, ysgwyd, taflu, llosgi neu ddefnyddio meddyginiaeth i wneud drwg i rywun.
  • cam-drin emosiynol: gwneud rhywun i deimlo'n ddiwerth, dweud bod neb yn eu caru, codi ofn - bygwth niwed, bod yn gas, ecsploetio i bwrpas rhyw neu waith. 
  • cam-drin rhywiol: gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, gorfodi rhywun i edrych ar a/neu greu deunydd pornograffig. Annog rhywun i ymddwyn mewn ffordd rywiol anaddas.
  • esgeulustod: Peidio darparu bwyd, llety a dillad addas, peidio amddiffyn rhag niwed neu berygl corfforol, peidio sicrhau mynediad at olaf neu driniaeth feddygol; peidio sicrhau fod plentyn yn derbyn addysg reolaidd.
  • camdriniaeth ariannol: gall oedolion ddioddef o ladrad, cael eu twyllo, pwysau ar gynnwys ewyllys neu bŵer twrnai.
  • caethwasiaeth fodern  (Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern: 08000121700)

Pa wybodaeth fyddai angen ei rannu?

  • Beth yw eich pryder a sut ddaeth yn amlwg?
  • Beth yw enw'r unigolyn sydd yn dioddef, ei ddyddiad geni, cyfeiriad a manylion y teulu? (os ar gael)
  • Pwy sydd wedi achosi pryder i chi ac oes yna dystion eraill?
  • Bydd eich galwad yn cael ei gofnodi a gwybodaeth am yr unigolyn yn cael ei wirio i weld a yw'n adnabyddus.
  • Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu gan asiantaethau eraill sydd â chysylltiad posib gyda'r unigolyn.
  • Ar sail y wybodaeth sydd ar gael bydd penderfyniad yn cael ei wneud i ymchwilio i'ch pryder.
  • Gall hyn arwain at waith cynhwysfawr i amddiffyn yr unigolyn rhag dioddef niwed pellach. 

Beth fydd yn digwydd wedyn?

Cofiwch

  • Os ydych yn credu fod trosedd wedi ei chyflawni mae angen hysbysu’r Heddlu.