Cefnogaeth yn y cartref

Ar ôl cyfnod o salwch neu ddamwain, mae’n bosib y byddwch angen help i gael eich annibyniaeth yn ôl, cefnogi eich safon byw ac adennill hyder. 

Gallwn ni eich cynorthwyo chi gyda hyn. Bydd y broses yn cychwyn gydag asesiad. 


Beth ydi asesiad?

Yma cawn wybod faint o gymorth yr ydych angen, beth sydd yn bwysig i chi a pha gefnogaeth sydd gennych ar y funud.

Dysgu mwy a gwneud cais am asesiad

 

Beth fydd yn digwydd ar ôl yr asesiad?

Bydd pecyn gofal personol yn cael ei greu i chi yn dilyn yr asesiad. 

Bydd y pecyn gofal yn cael ei egluro i chi, a bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn eich hysbysu o’r gofal cartref y byddwch chi’n ei dderbyn.

Byddwn hefyd yn parhau i fonitro eich anghenion er mwyn sicrhau eich bod yn byw bywyd fel yr ydych yn ei ddymuno. 

 

Pa fath o help sydd ar gael?

Bydd y math o help y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar eich pecyn gofal.

Os y byddwch yn darganfod eich bod angen gofal cartref, fe ddewch i ddysgu am ein ffordd newydd o weithio ar lefel cymunedol. Dysgu mwy am y Prosiect Gofal Cartref 

Os byddwch angen gofal parhaus mae modd derbyn asesiad ariannol i weld a oes modd derbyn cymorth tuag at gostau’r gofal. 

Petai’r asesiad yn datgan nad ydych yn gymwys i gymorth, byddwn yma gyda gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau eraill a all eich cynorthwyo i fyw’n annibynnol a hyderus. 


Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am asesiad cysylltwch â ni