Galwch Draw Gwynedd a Môn

Oes gennych chi’r amser a’r ymroddiad i helpu i ofalu am oedolion sy’n byw a dementia a nam ar y cof yng nghartref eich hun?

Mae Galwch Draw yn chwilio am alluogwyr sy’n barod i agor eu cartrefi am dâl i ddarparu:

  • Cefnogaeth dydd  
  • Ysbaid
  • Gwyliau byr

Mwy o wybodaeth 

 

Mae Galwch Draw yn credu y dylai pobl allu dilyn y bywydau maent am eu dilyn, tra eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt yn y cartref o’u dewis hwy. 

Rydym yn trefnu i bobl gyda dementia neu nam ar y cof dderbyn cefnogaeth yng nghartrefi pobl sydd wedi’u dewis yn ofalus, sef galluogwyr Galwch Draw am y dydd neu am ysbaid.  Mae’r gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu yn hyblyg ac wedi ei deilwro i anghenion yr unigolyn.

  • Rhywun sydd gan ystafell sbâr ac ymrwymiad i gefnogi pobl (os am gynnig ysbaid). 
  • Mwy na 'gwely a brecwast'
  • Rhywun sy'n cynnig cartref diogel a sefydlog
  • Rhywun sy'n dangos diddordeb gwirioneddol yn y person, a sy'n barod ei gefnogaeth i sicrhau cyfleon i'r unigolyn integreiddio o fewn y gymuned leol
  • Rhywun sy'n annog y person i barhau ei berthynas / pherthynas gyda ffrindiau a theulu ac i fynychu canolfan ddydd neu unrhyw weithgareddau. 

Hoffwn glywed gennych os

  • ydych eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl
  • ydych yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant
  • ydych yn gadarnhaol a gofalgar
  • ydych yn sensitif i anghenion pobl
  • ydych yn gallu gweithio â'r cynlluniau a gytunwyd
  • ydych yn chwilio am ffordd hyblyg o ennill incwm ychwanegol

Mae profiad blaenorol yn y sector gofal yn ddefnyddiol ond nid yw’n ofyniad. Mae brwdfrydedd yr un mor werthfawr.  

 

Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

  • Swydd Wobreuol
    Mae swydd fel gofalwr yn cael ei adnabod fel un o’r swyddi mwyaf gwobreuol ar lefel personol.
  • Hyfforddiant
    Byddwn yn darparu anwythiad, hyfforddiant a chymorth i chi.
  • Cyflogaeth
    Byddwch yn derbyn taliad wythnosol (sy’n cynnwys lwfans treth hael).

Os oes cytundeb tenantiaeth ynghlwm wrth y lleoliad, yna bydd yr unigolyn yn talu rhent am ei ystafell.

 

Beth mae hyn yn ei olygu i mi wrth dderbyn cefnogaeth trwy Galwch Draw?

  • Cefnogaeth yn y gymuned
  • Cefnogaeth hyblyg
  • Cefnogaeth berson-ganolog
  • Ysbaid i’r gofalwr 

 

Cysylltu â ni

Mae Galwch Draw yn rhan o Gynllun Cysylltu Bywydau Gwynedd a Môn

Cynllun Cysylltu Bywydau