Rhywun i siarad ar fy rhan

Eiriolwr yw rhywun sy’n eich cefnogi i gyfathrebu eich anghenion, helpu i archwilio opsiynau ac yn cyflawni pethau ar eich rhan.

 

Beth mae eiriolwr yn ei wneud?

  • gwneud yn siŵr fod pobl yn gwrando arnoch ac yn rhoi atebion i chi
  • rhoi llais i chi
  • hyrwyddo delweddau cadarnhaol
  • gweithio fel bod pethau’n digwydd ac yn newid
  • eich cefnogi i wneud penderfyniadau a chymryd mwy o reolaeth
  • gweithio dros hawliau cyfartal a chynhwysiant.


Beth nad yw eiriolwr yn ei wneud

  • cynghori
  • mynd â rheolaeth oddi arnoch
  • chwarae rôl gweithiwr cymdeithasol
  • llenwi bylchau yn y gwasanaethau ddylai gael eu darparu.


Sut ydw i’n cael eiriolwr?

Cysylltwch ag un o’r darparwyr eiriolaeth annibynnol hyn:


Cynllun Adfocatiaeth Iechyd Meddwl (Bangor)

Mae’n darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol i bobl sydd ag anawsterau Iechyd Meddwl yng Ngwynedd ac Ynys Môn, drwy ddarparu gwybodaeth, cynrychiolaeth neu gymorth.


Cymdeithas Cyngor ac Adfocatiaeth Gogledd Cymru - NWAAA

Hyrwyddo a darparu adfocatiaeth i bobl sydd dan anfantais oherwydd anabledd, salwch, oedran neu eu bod ar y tu allan i gymdeithas, yng ngogledd Cymru’n bennaf.
Maent hefyd yn cynnig cefnogaeth benodol i bobl sydd yn derbyn, neu'n awyddus i dderbyn Taliadau Uniongyrchol.

 

Gwasanaeth Adfocatiaeth Gogledd Cymru Tros gynnal

Mae Gwasanaeth Adfocatiaeth Gogledd Cymru yn darparu cymorth eiriolaeth i blant a phobl ifanc cymwys. Mae’r gwasanaeth yn ceisio gwneud yn siŵr fod pob person ifanc yn cael y cyfle i gael eu clywed, a bod rhywun yn ystyried eu barn, dymuniadau a theimladau wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Bydd eiriolwyr profiadol yn cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau ac yn rhoi’r grym iddynt wneud dewisiadau.