Taliadau Uniongyrchol

Os ydych yn gymwys am wasanaethau Gofal yn y Gymuned, gall y cynllun Taliadau Uniongyrchol eich gwneud yn fwy annibynnol.

Yn lle derbyn gwasanaethau gan y Cyngor gallwch ddewis derbyn yr arian a phrynu'r gwasanaeth o rywle arall. Mae hyn yn rhoi mwy o ddewis, rheolaeth a hyblygrwydd i chi.

  • Chi fydd yn dewis pwy fydd yn darparu'r gofal i gwrdd â'ch anghenion
  • Chi fydd yn dewis pryd bydd y gwasanaethau'n cael eu darparu

Bydd yr arian yn cael ei dalu i gyfrif banc pwrpasol ar gyfer talu cyflogau a threuliau perthnasol. Gallwch ddefnyddio'r arian i benderfynu sut i gwrdd â'ch anghenion personol sydd yn eich Cynllun Gofal.

Ni chaiff y Taliad Uniongyrchol ei ystyried yn incwm, felly ni fydd yn effeithio ar eich treth incwm.

 

Pwy all dderbyn Taliadau Uniongyrchol?

Gallwch fod yn gymwys am Daliadau Uniongyrchol os ydych yn:

  • rhiant neu’n unigolyn gyda chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl
  • unigolyn anabl â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn
  • person ifanc dros 16 oed sy’n anabl
  • person rhwng 18-64 oed sy’n derbyn gwasanaethau gofal yn y gymuned
  • person dros 16 oed sy’n darparu gofal rheolaidd a sylweddol i oedolyn
  • person dros 65 oed sy’n derbyn gwasanaethau gofal yn y gymuned.

Yn ogystal, bydd angen i chi allu rheoli’r cynllun eich hun neu gyda chymorth gan aelod o’r teulu, gofalwr neu berson rydych yn ymddiried ynddo.

 

Sut mae gwneud cais?

Os ydych yn gymwys i dderbyn Taliadau Uniongyrchol, bydd hynny ar sail asesiad Gofal yn y Gymuned trylwyr. Gallwch wneud cais am yr asesiad gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Cysylltwch â'r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

 

map gwasanaethau cymdeithasol

1. Ardal Llŷn

2. Ardal Caernarfon

3. Ardal Bangor

4. Ardal Eifionydd a Gogledd Meirionnydd

5. Ardal De Meirionnydd