Help i hawlio budd-daliadau

Os ydych yn derbyn unrhyw wasanaeth gofal megis gofal cartref neu gofal preswyl/nyrsio gan y Gwasanaethau Oedolion, gall yr Uned Incwm a Lles gynnig cyngor annibynnol ynglyn ȃ’r budd-daliadau rydych yn gymwys i'w hawlio. 

Mae'r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig yn cynnwys:

  • ymweliadau cartref i asesu pa fudd-daliadau rydych yn gymwys i’w derbyn
  • cyngor dros y ffôn
  • cymorth i gwblhau ffurflenni cais am fudd-dal/asesiad ariannol
  • eirioli ar eich rhan gydag asiantaethau megis y Gwasanaeth Pensiwn
  • eich cynrychioli mewn apeliadau / tribiwnlysoedd
  • cyngor ynglyn a lwfansau/grantiau cymorth sydd ar gael
  • eich arall-gyfeirio i asiantaethau eraill am gymorth

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda’r Uned Incwm a Lles:

Os nad ydych yn derbyn unrhyw wasanaethau gofal gan y Gwasanaethau Oedolion ac felly ddim yn gymwys i dderbyn cymorth gan yr Uned Incwm a Lles, gall y sefydliadau canlynol gynnig cyngor i chi: