Edrych ar ôl materion rhywun arall

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn amddiffyn pobl dros 16 nad ydynt yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain oherwydd anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl neu salwch.

Mae’r ddeddf yn eich galluogi i ddewis rhywun i edrych ar ôl eich materion ariannol a’ch eiddo pe baech yn methu â gwneud hynny eich hun. Byddent hefyd yn gwneud penderfyniadau iechyd a lles ar eich rhan.

Er mwyn trefnu hyn, rhaid llunio dogfen gyfreithiol o’r enw Atwrneiaeth Arhosol (Lasting Power of Attorney). 

Mae canllaw defnyddiol ar wefan GOV.UK