Gwynedd Oed Gyfeillgar

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio i fod yn awdurdod lleol oed gyfeillgar erbyn 2025, mae hyn yn cyd-fynd a’r gwaith cenedlaethol gan Llywodraeth Cymru a Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Mae’r agenda yma yn cyd-fynd gyda gwaith Sefydliad Iechyd y Byd. Dysgu mwy am waith Sefydliad Iechyd y Byd  

Mae cais Gwynedd wedi’i gyflwyno a bydd modd ei ddarllen o’r dudalen yma yn fuan iawn. 


O fewn Cyngor Gwynedd mae dau rôl benodol sy’n cefnogi’r gwaith a gallwch gysylltu â hwy am fwy o wybodaeth: 


Mae nifer o brosiectau ar y gweill yng Ngwynedd: 

Rhannu Cartref

Mae cynllun cyffrous Rhannu Cartref yn lansio yng Ngwynedd! 

Mae'r cynllun yn gyfle cyffrous i fynd i'r afael â rhai o brif heriau sydd yn wynebu'r Cyngor megis gofal, di-gartrefedd a heriau cymdeithasol megis unigrwydd. Mwy o wybodaeth
 

Pontio’r Cenedlaethau

Mae cynllun pontio’r cenedlaethau yn gweithio'n hynod o galed ar amryw o brosiectau sy'n dod â phobl o bob oed at ei gilydd:

Gwylio fideo i ddysgu mwy am y cynllun Pontio'r Cenedlaethau  

Mae Cyngor Gwynedd yn bartneriaid yn yr wythnos Ryngwladol sy'n dathlu pontio’r cenedlaethau ym mis Ebrill 2024. Dysgu mwy am y gwaith a’r dathliadau rhyngwladol 

 

Cefnogaeth a chyngor i baratoi am y gaeaf

Llawlyfr Paratoi am y Gaeaf - cyngor a gwybodaeth i bobl hŷn

 

Sgyrsiau oed-gyfeillgar

Mae clywed lleisiau pobl hŷn yn holl bwysig i’r maes gwaith ac felly os ydych eisiau gwahodd Mirain (Arweinydd Oed-Gyfeillgar y Cyngor) draw i ddigwyddiad neu i’ch cymuned yna cysylltwch â Mirain i drefnu amser cyfleus.