Cartrefi gofal

Mae cartref gofal yn darparu llety a gofal i bobl sydd angen cefnogaeth ychwanegol yn eu bywyd dyddiol. Mae staff proffesiynol wrth law 24 awr y dydd i gefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosib mewn awyrgylch saff.

Mae gwahanol fathau o gartrefi gofal yn bodoli gyda rhai yn darparu gofal mwy arbenigol gyda nyrsys cofrestredig ar gael i ddarparu gofal. Gall cartrefi gofal gael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, cwmnïau annibynnol a sefydliadau gwirfoddol.

Yn ogystal â byw mewn cartref gofal llawn amser, mae modd treulio cyfnod dros dro o adfer mewn cartref gofal yn dilyn salwch neu gyfnod yn yr Ysbyty neu i roi seibiant i deulu/ffrindiau o ofalu.

Llyfryn Gwybodaeth Gofal Preswyl a Nyrsio Gwynedd


Ystyried symud i gartref gofal

Eich cam cyntaf wrth ddewis cartref yw adnabod eich anghenion gofal. Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn rhoi cymorth i chi adnabod hyn ac yn gwrando ar eich barn a’ch dymuniadau. Pan fydd gennych ddealltwriaeth o’ch anghenion, gallwch wedyn benderfynu pa gartrefi gofal sydd yn gallu cwrdd â’ch anghenion. Cysylltwch â ni


Dod o hyd i gartref gofal

Gall eich dewis o gartref gofal ddibynnu ar nifer o ffactorau. Mae yna nifer o wahanol gartrefi preswyl a nyrsio wedi eu lleoli yng Ngwynedd a thu hwnt i ffiniau’r Sir.

Mae gwybodaeth am bob cartref preswyl a nyrsio yng Nghymru ar gael ar wefan Dewis Cymru. Cliciwch ar y cyswllt isod i weld pa gartrefi gofal sydd yn eich hardal chi.

Gweld rhestr Cartrefi Gofal yng Ngwynedd

 

Ffioedd a thalu

Nid yw gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim. Yn ddibynnol ar eich modd ariannol, gallwch fod yn gyfrifol am dalu’r gost llawn am eich gofal. Eich cyfrifoldeb chi yw gofyn i Gyngor Gwynedd am gymorth ariannol i dalu am eich gofal.

Mae mwy o wybodaeth am daliadau gofal cartref i'w gael yn ein llyfryn:

Llyfryn Gwybodaeth Gofal Preswyl a Nyrsio Gwynedd


Eich hawliau

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio canllaw newydd i bobl hŷn, sy’n darparu gwybodaeth hollbwysig am eu hawliau pan fyddant yn symud i fyw mewn cartref gofal.

Canllaw hawliau pobl hŷn mewn cartrefi gofal

 

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni