Ymgynghoriad Strategaeth Llifogydd Lleol Drafft
Mae Cyngor Gwynedd eisiau clywed barn y cyhoedd, partneriaid risg ac awdurdodau cyfagos ar ein Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol Drafft.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus hwn, bydd y Cyngor yn ystyried yr ymatebion ac yn defnyddio hyn i ddiweddaru'r Strategaeth Leol lle bo angen. Bydd y Strategaeth derfynol, a’r asesiadau amgylcheddol cysylltiedig, yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet i’w cymeradwyo cyn cyflwyno’r dogfennau terfynol i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo gan Weinidogion.
Mae'r manylion llawn i'w cael yn y dogfennau canlynol. Dylid cyfeirio at y dogfennau hyn wrth ymateb i'r ymgynghoriad
Dweud eich dweud
Mae Cyngor Gwynedd yn eich gwahodd i rannu eich barn, awgrymiadau ac adborth ar ymgynghoriad cyhoeddus Strategaeth Llifogydd Lleol Cyngor Gwynedd. Cwblhewch yr arolwg ar-lein isod er mwyn rhoi eich barn:
Holiadur Ar-lein: Ymgynghoriad Strategaeth Llifogydd Lleol Drafft
Rhaid ymateb cyn hanner nos, 5 Mai 2024.
Mae copïau papur o’r ymgynghoriad ar gael yn:
Neu gallwch lawrlwytho copi pdf o'r holiadur a'i ddychwelyd drwy e-bost neu drwy'r post:
- E-bost: rrlea@gwynedd.llyw.cymru
- Post: Ymgynghoriad Strategaeth Llifogydd, Gwasanaeth Cefnogol, Adnoddau Dynol, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
I gael copi o’r holiadur mewn iaith neu fformat arall ffoniwch 01286 679426 neu e-bostiwch rrlea@gwynedd.llyw.cymru
Mae’r holiadur hwn yn ddienw. Peidiwch â chynnwys gwybodaeth a fyddai'n datgelu pwy ydych chi neu unrhyw unigolyn arall.
Bydd yr wybodaeth a roddwch wrth gwblhau'r arolwg hwn yn cael ei drin yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data.
Problem llifogydd?
Noder: Ymgynghoriad ar Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd yw hwn. Peidiwch â defnyddio'r ymgynghoriad hwn i adrodd problem llifogydd.
I roi gwybod am broblem llifogydd, neu bryder sydd gennych ynglŷn a risgiau llifogydd neu erydiad arfordirol ac effeithiau posib i’ch eiddo, cysylltwch â ni drwy:
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu sylw am yr ymgynghoriad, cysylltwch â ni: