Ymgynghoriad ar yr Adolygiad o'r Datganiad Polisi Trwyddedu

Deddf Trwyddedu 2003 – Adolygu’r Datganiad Polisi Trwyddedu

Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir.

Fel awdurdod trwyddedu rydym yn gyfrifol am drwyddedu eiddo yng Ngwynedd  sy’n gwerthu alcohol, yn darparu adloniant wedi'i reoleiddio ac yn gwerthu bwyd poeth a/neu ddiodydd (dialcohol) poeth ar ôl 23:00.

Mae angen rhyw fath o drwydded ar bob eiddo megis tafarndai, clybiau, bwytai, gwestai, archfarchnadoedd, ynghyd â siopau tecawê sydd ar agor yn hwyr y nos.

Mae’n ofynnol i ni lunio Datganiad Polisi Trwyddedu yn amlinellu’r ffordd yr ydym yn ymdrin â thrwyddedu yng Ngwynedd

Mae’r polisi hwn yn rhoi canllawiau eglur ynghylch gofynion cyfreithiol a disgwyliadau’r cyngor; i ddeiliaid trwydded, ymgeiswyr, a phreswylwyr.

Ceir pedwar amcan trwyddedu o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

  1. atal trosedd ac anhrefn.
  2. diogelwch y cyhoedd.
  3. atal niwsans cyhoeddus.
  4. diogelu plant rhag niwed.

Gallwn roi sylw i’r materion hynny sy’n ymwneud ag un neu ragor o’r amcanion trwyddedu a restrir uchod yn unig wrth lunio ein Datganiad Polisi Trwyddedu.

 

Beth ydym ni eisiau ei wybod? 

Ymgynghoriad ar yr Adolygiad o’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu

Rydym yn awyddus i glywed gan fusnesau lleol, trigolion lleol, ac awdurdodau cyfrifol ynghylch y fersiwn drafft o’n Datganiad O Bolisi Trwyddedu 2023-2028.

Datganiad o Bolisi Trwyddedu 2023-2028

 

Rhoi eich barn

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng y 4ydd o Ragfyr 2023 a’r 15 fed o Ionawr 2024. Rhaid i’r holl ymatebion gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt, gan na ellir ystyried ymatebion dienw.

Os hoffech wneud sylwadau ar y polisi drafft, gallwch wneud hynny yn un o'r ffyrdd canlynol:

  • E-bostiwch eich ymateb i trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru
  • Ysgrifennu at: Gwasanaeth Trwyddedu,  Adran Amgylchedd, Cyngor Gwynedd Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SE 

Rhaid i bob ymateb ddod i law erbyn 5pm ar y 15 o Ionawr 2024.

Bydd yr wybodaeth a roddwch wrth gwblhau'r arolwg hwn yn cael ei drin yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data.