GDMC Caernarfon

Beth yw Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC)?

Mae GDMC yn un o'r pwerau a gyflwynwyd gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Heddlu 2014. Mae'n rhoi pwerau i'r awdurdodau orfodi cyfyngiadau a gofynion ar unigolion o fewn ardaloedd dynodedig, mae hyn er mwyn mynd i'r afael â niwsans neu broblemau penodol mewn ardaloedd gyda'r nod o wella bywyd ymwelwyr a thrigolion yn yr ardal.

 

Pam ystyried GDMC? 

Yng Nghaernarfon, mae'r penderfyniad i ystyried Gorchymyn Diogelu'r Mannau Cyhoeddus (GDMC) yn ymateb i fathau newydd ac yn gynyddol o ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn yr ardal benodol. Mae data'r heddlu ac adroddiadau tystion wedi amlygu graddfa'r broblem, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Cyn ystyried GDMC, rhaid i'r Awdurdod Lleol fod yn fodlon:

  • Fod ymddygiad o'r fath mewn gofod cyhoeddus wedi cael, neu'n debygol o gael, effaith niweidiol ar ansawdd bywyd pobl yn y gymdogaeth.
  • Bod y gweithgareddau hyn yn, neu'n debygol o fod, yn aml ac o fewn natur barhaus.
  • Bod y gweithgareddau hyn yn, neu'n debygol o fod, yn afresymol.
  • Eu bod yn cyfiawnhau'r cyfyngiadau a amlinellir.

 

Beth yw'r cyfyngiadau arfaethedig? 

Mae'r cyfyngiadau dan ystyriaeth wedi'u datblygu'n benodol i ddelio â'r mathau o ymddygiad sy'n achosi'r problemau mwyaf difrifol yn yr ardal hon, ac felly maent yn cyfiawnhau eu cynnwys. Rydym yn ystyried y cyfyngiadau canlynol yn briodol, sef:

  1. Ni chaiff unigolyn ddilyn dull o ymddygiad sy'n achosi aflonyddu, braw, niwsans, neu drallod. 

  2. Ni chaiff unigolyn yfed alcohol os yw Person Cymeradwy yn gofyn i'r unigolyn stopio yfed.
  3. Ni chaiff person loetran mewn cyflwr o feddwdod o ganlyniad i gymryd alcohol neu gyffuriau. 

 

Beth yw ardal y GDMC arfaethedig?

Map Ardal GDMC Caernarfon


Dweud eich dweud

Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir.

Close

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd eich adborth yn cael ei ystyried gan ran swyddogol o'r Cyngor, Grŵp Adolygu o gynghorwyr a swyddogion a fydd yn gwneud argymhellion ar y cynigion a gytunwyd a fydd yn cael eu rhoi mewn GDMC i'w hystyried gan gyfarfod llawn y Cyngor.

Byddwch yn gallu dod o hyd i'r adroddiad llawn ar sail ymgynghori hon ar wefan Diogelwch Cymunedol Cyngor Gwynedd.

       

Er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am unrhyw fater Diogelwch Cymunedol, neu os oes gennych gwestiwn neu sylw am yr arolwg yma, cysylltwch ar 

E-bost: DiogelwchCymunedol@gwynedd.llyw.cymru

Rhif ffôn: 01766 771 000

Cyfnod yr ymgynghoriad26.02.24 - 07.04.24