Amcanion Cydraddoldeb Cyngor Gwynedd ar gyfer 2024-28

Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir.

 

Os ydych chi angen yr holiadur yma mewn fformat, dull neu iaith arall cysylltwch â’r Tîm Cydraddoldeb ar 01286 679708 neu cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru. Os ydych chi yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL), cysylltwch â Canolfan Sain Golwg Arwyddion (COS) am gefnogaeth tecst 07799533547 neu e-bost info@signsightsound.org.uk

 

Mae gan Cyngor Gwynedd ddyletswydd i edrych ar ein Amcanion Cydraddoldeb bob pedair blynedd a’u newid os oes angen. Mae hyn yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010. 

Mae hi rŵan yn amser i ni feddwl am ein amcanion ar gyfer 2024-28. Mae angen gweld os ydi’r amcanion sydd gennym ni ar gyfer y cyfnod presennol, sef 2020-24, angen eu newid neu ychwanegu atynt.

Wrth benderfynu pa amcanion i’w defnyddio, mae angen i ni ystyried nifer o bethau e.e. data am nodweddion cydraddoldeb, Cynlluniau Gweithredu newydd Llywodraeth Cymru, cynlluniau eraill y Cyngor ac yn y blaen. Ond un o’r pethau pwysicaf fydd yr hyn rydych chi yn ei ddweud wrthym ni, fel y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Felly mi fydda ni’n ddiolchgar iawn o gael gwybod eich barn chi.

Mae gennym ni 5 Amcan ar hyn o bryd. Yda chi’n meddwl fod eisiau i ni gadw’r amcanion yma fel mae nhw, cadw rhai ohonyn nhw, a / neu defnyddio rhai newydd ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb 2024-28?

Ein bwriad yw defnyddio’r wybodaeth o’r holiadur, a’r data arall, er mwyn creu Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer 2024-28.  Bydd y drafft yn cael ei ystyried gan y Cabinet ac, os ydi nhw’n cytuno, byddwn yn gofyn barn pawb arno yn yr hydref. Wedyn byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen a’i ddychwelyd i’r Cabinet cyn diwedd Mawrth 2024, er mwyn iddynt benderfynu os ydynt am ei dderbyn.

Os ydych chi eisiau gweld yr Amcanion a Pwyntiau Gweithredu llawn yn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24, cliciwch yma.

 

Er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am unrhyw fater cydraddoldeb, neu os oes gennych gwestiwn neu sylw am yr holiadur yma, cysylltwch ar 

E-bost: cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru

Rhif ffôn: 01286 679708