Llwybr beicio Llanrug i Gaernarfon

Mae Cyngor Gwynedd yn datblygu lôn feicio newydd o Lanrug i Gaernarfon, er mwyn gwella'r cysylltiad rhwng cymunedau, atyniad allweddol yng Nghaernarfon a'r ardal gyfagos.

 

Y cyfleoedd

  • Llwybr sy'n darparu cysylltiad rhwng cymunedau ac atyniadau lleol yng Nghaernarfon fel y castell, Canolfan Hamdden Arfon ac Ystad Ddiwydiannol Cibyn.
  • Darparu llwybr diogel i feicwyr a cherddwyr
  • Llwybr uniongyrchol i mewn i Gaernarfon sy'n gyffyrddus ac yn hawdd ei ddefnyddio
  • Llwybr sy'n lleihau gwrthdaro ar y ffyrdd
  • Yn annog pobl i gerdded a beicio at ddibenion gwaith a hamdden
  • Dewis llwybr sydd â'r effaith amgylcheddol leiaf 

 

Y prosiect

Cam 1: Dechreuodd y prosiect trwy edrych ar ardal yr astudiaeth o fewn y llinell goch y map hwn. I ddod o hyd i'r llwybr mwyaf addas, edrychwyd ar ddeg llwybr gwahanol. 

Gweld y llwybr arfaethedig

 

Cam 2: Ar ôl asesu bob llwybr, dewiswyd un llwybr a dderbynnir i'w hastudio ymhellach. Gellir gweld gwybodaeth am y lwybr drwy ddilyn y ddolen isod. Gweld manteision ac anfanteision y llwybr a argymhellir.

Ein argymhelliad

 

 

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch trafnidiaeth@gwynedd.llyw.cymru

 

Dweud eich dweud

Cwblhau'r holiadur 

Mae'r cyfnod ymgynghori yn dod i ben 8 Chwefror 2021.