Trawsgrifiad fideo Hybiau Cymunedol

0:34  Rydym ni reit yng nghanol Blaenau. Mae hwn yn un o swyddfeydd gweithwyr amgylcheddol ond rydym ni drws nesaf i'r ganolfan 'galw mewn' sydd gennym ni sef canolfan prysyr tu hwnt.

0:46  Wedyn, mae gennym ni prosiectau mentra cymunedol eraill yn gweithio yn yr un adeilad.

0:52  Roedd Y Dref Werdd yn brosiect a ddaeth allan o raglen Cymunedau Gyntaf yn ol yn 2006/2007 ac wedyn oedd yna cylfe i cael swydd, rhan-amser, i weithio gyda Y Dref Werdd. Felly, roeddwn yn ffodus iawn i gael y swydd a dyna sut wnes i ddod i mewn i fo, mewn ffordd.

1:08  Fe wnaethom ei sefydlu oherwydd doedd yna ddim darpariaeth i bobl gallu mynd at i gael cefnogaeth a cymorth yn y gymuned achos roedd llawer o'r gwasanaethau eraill wedi cael ei thynnu i ffwrdd o'r ardal.

1:19  Felly, trwy help gan y gronfa gymunedol, trwy'r loteri genedlaethol, cawsom ni grant am bedwar blynedd i sefydlu'r ganolfan 'galw mewn'.

1:29  Yr hyn rydym yn ei wneud yno yw helpu pobl gyda beth bynnag a ddaw drwy'r drws. Rydym yn ceisio eu helpu ein hunain neu yn allgyfeirio nhw i wasanaeth arall i help nhw.

1:52  Rydym yn agor y swyddfa dri diwrnod yr wythnos. Felly, mae hynny yn golygu bod pobl yn dod i mewn i gael cymorth bod hynny gyda bwyd neu filiau ynni neu bob math o bethau i ddweud y gwir.

2:07  Mae pobl yn dod atom ni am gymorth gyda 'bus passes', bathodynnau glas, unrhyw beth maen nhw angen cymorth gyda, maen nhw yn dod i mewn.

2:17  Felly, yn aml iawn, mae yna tair ohonom ni yn gweithio yn y swyddfa lawr grisiau a rydym ni i gyd efo rhywun drwy'r dydd. Rydym yn stopio i gael cinio, ac wedyn mae yna giw tu allan yn disgwyl i ni ail agor.

2:30  Ar Ddydd Mawrth a Dydd Iau yn ystod yr wythnos, mae gennym ni sesiynau presgripsiynau gwyrdd felly, rydym yn mynd a phobl allan i'r coed neu allan i safleoedd gwahanol i wneud sesiynau. Bod hynny yn grefft neu teithio cerdded weithiau, pethau am hanes yr ardal, diwylliant yr ardal, a mae hynny yn dod a bobl allan, yn enwedig ar ol COVID-19, mae pobl wedi bod yn ynysig, felly, rydym yn helpu pobl.

2:59 Does 'na ddim pwynt gofyn i bobl dod allan os nad ganddyn nhw wres yn tŷ, felly, rydym yn gwneud yn siŵr fod bob dim yn ei le ganddyn nhw fel bod nhw yn gynnes, bwyd yn ei boliau a wedyn bod nhw yn hapus i ddod allan i gymdeithasu.

3:24  Felly, dyma ni yn Gerddi Maes y Plas, ger Ffordd Manod yng nghanol Blaenau Ffestiniog.

3:29  Beth yw'r gerddi? wel, gardd farchnad ydi o a'r syniad tu ôl iddo fo ydi i cael safle sydd yn tyfu ffrwythau a llysiau ar raddfa fawr er mwyn gallu darparu nhw yn lleol i fusnesau, a'r freuddwyd, i ysgolion y fro hefyd.

3:46  Rydym wedi cael y tir ar les gan Gyngor Gwynedd i ddatblygu ond safle 'brownfield' oedd o le oedd o wedi gordyfu, lot o sbwriel a lot o dipio slei bach ac doedd o ddim yn cael defnydd mond ambell i berson mynd a'r ci am dro.

4:00  Erbyn heddiw, rydym wedi gwneud lot o waith clirio i ddatblygu'r safle, lot o waith clirio. Mae yna fynedfa gall i mewn i'r safle, mae yna gaban yma hefyd sydd yn gweithio fel swyddfa ond fel 'potting shed posh' i ddweud y gwir.

4:15  Mae yna ofod i goginio tu allan yma hefyd.Wedyn, lle mae'r tyfu i gyd yn digwydd, yn amlwg mi fydd yna 'raised beds' yn cael ei adeiladu yn lle dwi'n sefyll a mae yna 'polytunnel' sydd yn 20 metr wrth 5 metr o hyd fel bod ni yn gallu tyfu ffrwythau a llysiau trwy'r flwyddyn.

4:33  Dwi'n meddwl, yn benodol, un o'r bethau pwysig i cofio ydi bod o'n ofod i'r cymuned a bod o'n lle mae pobl y gymuned yn gallu dod i dreulio amser efo'i gilydd, i gymdeithasu i wirfoddoli, i roi help llaw i'r gwaith sydd angen yma.

4:47  A'r freuddwyd, yn y tymor byr, bod o'n cynhyrchu ffrwythau a llysiau bod pobl yn dod yma i ddefnyddio fo ac mae hynny, mwy neu lai, yn digwydd.

4:56  Ond yn hir dymor, bod o'n sefyll ar ei draed ei hyn, gobeithio a, pwy a ŵyr, efallai, gobeithio, un diwrnod, bod o yn bwydo plant ysgolion cynradd ac uwchradd yr ardal o fewn yr ysgolion.

5:30  Oeddwn i yn dod i'r Dref Werdd i lenwi ffurflenni ac am help gyda biliau trydan a phethau fel 'na a pan wnaeth fan yma gychwyn, mi wnes i ddod i mewn i weld i gael gwneud pethau efo fy mhlant ac mi wnes i glicio efo Emma sydd yma ac wedi dechrau dod i mewn yn fwy aml ac wedi diweddu yn gwirfoddoli ac yn gwneud gwaith iddyn nhw.

5:52  Rydw i'n teimlo'n wahanol, yn lot fwy cyffyrddus efo pobl tipyn bach fwy o hyder a er bod dwi'n dal yn cael trafferth efo 'anxiety' dwi'n gallu delio efo fo yn lot gwell bod gen i rywle i ddod ia pan mae o'n dod at filiau a phethau, rydw i yn gwybod bod gen i'r 'support' yn Dref Werdd ac mae gen i bobl i siarad gyda hefyd os oes angen help gydag unrhyw beth.

6:25  Wel, yn syml, beth fysa'n digwydd pe bai'r Dref Werdd yn dod i ben ydi fysa fo'n dipyn o 'gatastrophe' yn y gymuned, dwi'n meddwl.Rydym ni wedi gwreiddio yn y gymuned, erbyn heddiw, gymaint, mae yna cymaint o ddibyniaeth ar y gwasanaethau rydym yn cynnig ac yn rhoi ac mae hynny ar draws y prosiect i gyd.

6:41 Rydw i'n meddwl, yn yr ardal yma, os fysa'r Dref Werdd yn dod i ben fory, dydw i ddim yn gwybod be fysa'n digwydd i'r holl bobl sydd yn dod trwy'r drws, achos mae gennym ni tua 300 o bobl yn dod y mis trwy'r drws ac mae, does 'na ddim pwynt meddwl beth fysa'n digwydd os fysa fo'n dod i ben.

7:00 Y gwahaniaeth yn y dref ac i fi yn bersonol ydi nid oedd unlle i ni fynd i gael yr help. Rhywun fel fi, yn sownd yn ty rydw i'n meddwl, fyswn i yn cael trafferth efo 'anxiety' a efo nunlle i ddod ac i wneud pethau.

7:16  Mae cymuned Bro Ffestiniog neu Blaenau Ffestiniog yn rhywbeth unigryw. Mae'r bobl yn unigryw. Mae'r ardal yn unigryw. Mae'r hanes, treftadaeth i gyd yn unigryw.

7:25  Rydw i yn wreiddiol yn dod o Croesor, dros y mynydd, felly, dydw i ddim yn bell. Felly, mae Croesor, mwy neu lai, yn rhan o hynny. Ond yn sicr, y bobl. Ti'n teimlo fel bod ti eisiau dal i wneud pethau ar gyfer gwella ac i ddatblygu ar beth sydd yma yn barod.

7:44 Mae o'n le unigryw, mae'r bobl yn unigryw. Ond mae rhaid i mi, hefyd, gyfeirio at aelodau staff rydw i'n gweithio efo. Maen nhw mor weithgar, mae eu calonnau nhw yn y gwaith i helpu pobl, i helpu'r amgylchedd, i helpu'r gymuned. Felly, mae'n rhywbeth sydd yn gwneud chdi eisiau dod i dy waith bob dydd.

8:02  Mae 'na wahaniaeth mawr. Rydw i wedi cael help efo fy merch hynaf yn cychwyn coleg fy merch ganol i, yn hoffi dod yma. Mae hi wedi ceisio am 'work experience' yma. Felly, wneith hynny helpu hi hefyd.

8:17  Ac gyda'r 'community fridge', mae fy mab wedi 'ffeindio' allan bod o yn gallu cael pethau. Felly, ar ôl ysgol ar Ddydd Gwener, mae o yn picio mewn i weld os mae yna 'snacks' yma iddo. Rydw i wedi dysgu gymaint, dim ond yn y ddwy fis gyntaf, 'dwi'n meddwl am yr holl bethau sydd allan yna, yr holl grantiau sydd i gael yr holl gymorth sydd allan yna ac nid yw pobl yn gwybod amdanynt.

8:42  Ac mae o wedi creu rhyw deulu bach o bobl sydd yn dod i'r Dref Werdd mae pawb yn ffrindiau efo'i gilydd, mae pawb yn helpu ei gilydd ac mae o'n deimlad braf, gweithio yma.