720px-Enlli

Enw: Enlli Gwyn Garton Jones

Byw: Llanrug

Swydd: Prentis Cyllid

Cymhwyster: AAT (cymhwyster cyfrifeg a cyllid)

Cefndir:

Ar ôl cwblhau Lefel A, mi wnes i ddechrau gradd Seicoleg Fforensig ym Mhrifysgol Bangor, ond sylweddoli mai nid hwnnw oedd y llwybr i mi. Penderfynais gymryd blwyddyn allan i weithio ac ennill pres fy hun, gyda’r bwriad o fynd yn ôl i’r Brifysgol i astudio Cyfrifeg.

Aelod o’r teulu wnaeth roi’r syniad o brentisiaeth i mi, ac ar ôl edrych i mewn iddo, sylweddolais mai dyma’r llwybr perffaith i mi. Roedd dewis yr yrfa yma yn golygu y byswn dal yn ennill pres wrth gwblhau cymwysterau perthnasol i’r swydd, ac yn dysgu’n ymarferol yn y gwaith gyda cydweithwyr sy’n rhannu eu profiadau.

Rwyf yn lwcus iawn o gael bod yn rhan o dîm Cyngor Gwynedd, a chael bod mewn amgylchedd Cymraeg, sy’n helpu i mi fod yn llawer mwy cyfforddus yn fy ngwaith. Y gobaith yw y byddaf yn gallu datblygu fy hun ymhellach gyda’r Cyngor wrth gwblhau cymwysterau pellach ac adeiladu gyrfa a dyfodol yma.