720px-Mair

Mae Mair Hughes yn gweithio fel Gweithiwr Allweddol yng Nghartref Preswyl Egwyl Fer Hafan Y Sêr. Mae Hafan Y Sêr yn gartref unigryw gan mai dyma’r unig Gartref ysbaid i blant hefo anableddau drwy Wynedd a Môn. Mae Mair wedi gweithio efo plant ers gadael y Coleg. Mae hi’n gallu defnyddio’i sgiliau a’i gwybodaeth o’r ochr addysg i weithio yn y maes Gofal ac mae hi wrth ei bodd.

Dewch i wybod mwy am hanes Mair drwy wylio’r fideo byr yma: