720px-HannahJoyce

Byddai’n rhaid i chi fod wedi bod yn byw dan garreg (neu lechen!) i fethu sylwi fod Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn ystod yr Haf eleni.

Mae pentrefi a threfi fel Blaenau, Bethesda ac Abergynolwyn bellach yn rhannu llwyfan â llefydd mor amrywiol a thrawiadol â’r Taj Mahal, Pyramidiau’r Aifft, Cadeirlannau Baroque America Ladin a’r Great Barrier Reef yn Awstralia.

Cyngor Gwynedd oedd yn arwain y gwaith o gyflwyno’r cais i UNESCO gyda gwahanol wasanaethau o fewn yr adrannau Economi a Chymuned, Cynllunio a TG yn chwarae rhan allweddol.  Cafodd y cyhoeddiad gryn sylw ar y pryd yn y cyfryngau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yma, mae Hannah Joyce, Uwch Swyddog Adfywio Strategol yn yr adran Economi a Chymuned yn rhoi ei argraffiadau unigryw ei hun ar yr holl broses. Mae Hannah a’i chydweithwyr, Roland Evans a Gwenan Pritchard, wedi bod yn flaenllaw wrth lywio’r prosiect dros y blynyddoedd.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan y Pwyllgor Treftadaeth Byd draw yn Tsieina bell gyda Hannah a’r criw yn gwylio dros y we yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis.  Meddai: “Roedd y teimlad o ryddhad, balchder a chyffro yn amlwg pan ddaeth y cyhoeddiad.  Roedd pawb yn nerfus iawn o flaen llaw gan nad oeddem yn gwybod beth fyddai’r penderfyniad. Roedd trafodaethau am safleoedd eraill wedi mynd yn groes i’r disgwyl. Pan oedd ein tro ni, roedd y Pwyllgor yn unfrydol mai arsgrifio Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru oedd y penderfyniad.

“Ar ôl cael amser i gysidro, balchder ydi’r teimlad fydd yn aros yn y cof – balchder o’r gwaith sydd wedi mynd i mewn i sicrhau'r statws, y cydweithio rhwng partneriaid, cymunedau a busnesau Gwynedd i gyrraedd y nod.”

Mae’r cyhoeddiad yn coroni 12 mlynedd o waith caled er bod y syniad a’r ewyllys i sicrhau statws Treftadaeth y Byd i’r ardal wedi bodoli ers 25 mlynedd. Mae’r tîm wedi wynebu heriau ar hyd y ffordd gyda datblygu’r enwebiad yn profi i fod yn gymhleth ar adegau, yn enwedig wrth geisio bodloni gofynion Llywodraeth Prydain, UNESCO a’r cyrff cynghorol.

Eglurodd Hannah: “Er gwaetha’r heriau, mae’r broses wedi bod yn un gwerth chweil wrth i ni fagu perthnasau da gyda chymunedau a busnesau Gwynedd, a galluogi iddynt fod yn rhan o’r broses o  ddatblygu a chyflwyno’r enwebiad. Ein prif fwriad oedd defnyddio treftadaeth gyfoethog y sir ar gyfer adfywiad cymdeithasol ac economaidd.

“Rydym yn awyddus i gymunedau a busnesau wneud y mwyaf o’r dynodiad yn ei ffordd eu hunain, ac mae’r sbardun ar gyfer hyn wedi cael ei greu trwy gynllun LleCHI sydd wedi bod yn rhedeg yn y cymunedau llechi ers tair blynedd. Rydym eisiau i’r dynodiad gynyddu dealltwriaeth leol o dreftadaeth a hanes dyffrynnoedd y llechi, i ennyn balchder yn y bröydd a chreu cyfleoedd economaidd newydd i unigolion a busnesau.

“Mae datblygiad yr enwebiad eisoes wedi denu dros £1 miliwn o fuddsoddiad allanol mewn prosiectau pwysig sy’n adfywio ein cymunedau yn economaidd ac yn gymdeithasol trwy dreftadaeth a diwylliant ac mae llawer o brosiectau’n cael eu datblygu ar gyfer y dyfodol.”

Er bod y gwaith o ddatblygu’r enwebiad wedi dod i ben, nid dyma ddiwedd y gân yn ôl Hannah.

Meddai: “Mae Cynllun Rheoli Safle wedi ei gyflwyno i UNESCO fel rhan o broses ymgeisio, ac mae hwnnw yn adnabod blaenoriaethau ar gyfer rheoli’r safle am y deg mlynedd nesaf.  Yn ymarferol, mae hyn yn golygu gweithio i wella dehongli ac ymgysylltiad gyda chymunedau ar draws yr ardal, gwaith i adfer ac adfywio rhai o’r strwythurau, adeiladau a thirweddau hanesyddol.

“Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda chymunedau a busnesau i wneud y mwyaf o’r dynodiad, ceisio sicrhau cyllid er mwyn esblygu cynllun LleCHI i’r dyfodol, a helpu partneriaid, cymunedau a thirfeddianwyr i fanteisio ar y cyfleon all ddeillio o’r dynodiad.”

Os hoffech ddarllen mwy am ardaloedd llechi Gogledd Orllewin cliciwch yma: https://www.llechi.cymru