720px-Gwenno

Bydd llawer o staff wedi gweld ymgyrchoedd diweddar y Cyngor i ddenu mwy o bobl i weithio i’r sector Gofal. Dyma gyfle i ddod i adnabod un o’r swyddogion tu ôl y gwaith, sef Gwenno Williams. Er ei bod wedi teithio i bellafoedd y byd, mae tynfa ei chynefin yn Llŷn wastad yn bwysig iddi – ac mae pobl wedi ei galw’n ‘bwmerang’ sydd bob amser yn dod yn ôl!

Beth ydi dy swydd a pam wnes di ddewis y rôl?

Ers mis Ionawr eleni dwi’n Swyddog Marchnata a Datblygu Gyrfaoedd Gofal yma yn Ngwynedd. Be sbardunodd fi fwyaf i neud y swydd oedd – fel hogan o Ben Llŷn - yn amlwg mae beth sy’n mynd mlaen yng Ngwynedd yn bwysig iawn ac o ddiddordeb naturiol i mi, roedd hi’n braf cael y cyfle i weithio yn fy milltir sgwâr.

Dwi’n eistedd o dan y tîm Datblygu Gweithlu yn y Cyngor ac mae’r criw yn gefnogol iawn. Roedd y cyfle i weithio mwy drwy gyfrwng y Gymraeg yn apelio hefyd, yn aml iawn rŵan os yn mynd i gyfarfodydd Saesneg dwi’n teimlo’n hun ‘out of practice’ a’n baglu dros fy ngeiriau er bo’ fi’n trio rhoi’r ‘Best English’ mlaen!!

Dwi wastad wedi bod yn berson pobl ac wrth fy modd yn cyfarfod pobl newydd. Dwi hefyd yn hoffi’r teimlad o allu helpu rhywun.

Beth wyt ti’n wneud o ddydd i ddydd?

Dwi’n meddwl mai’r ffordd hawsaf i ddisgrifio’r rôl ydi codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r sector Gofal, gwneud pobl ym ymwybodol o’r rolau gwahanol sydd ar gael a gobeithio agor y sector a’i chyfleoedd allan i fwy o bobl.

Dwi’n gwneud dipyn o bethau amrywiol i drio gwneud hyn – cynnal cyflwyniadau i blant a phobl ifanc o ddisgyblion blwyddyn 6 i bobl ifanc yn gorffen eu graddau. Cymryd rhan mewn paneli cwestiwn ac ateb. Cynnal digwyddiadau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein yn ogystal â mynychu rhai mae eraill yn eu trefnu. Creu deunydd fideo. Creu cyfleoedd profiad gwaith i bobl ifanc a helpu i greu cynlluniau profiad gwaith i bobl hŷn sydd eisiau blas o’r sector cyn gweithio ynddi llawn amser. Rwyf hefyd yn rhoi ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol at ei gilydd.

Mae ’na lawer o ganfyddiadau am y sector Gofal Cymdeithasol – sawl un yn meddwl bod o ond yn golygu gofal personol, eraill yn meddwl bod hi’n sector lle mae pobl hŷn yn gweithio ynddi ac eraill wedyn yn meddwl bod angen dipyn o gymwysterau. Ond calon fawr i helpu ydi’r arf pwysicaf sydd gennych chi. Os alla i newid barn o leiaf un person am y canfyddiadau yma yna mi fydda i’n hapus iawn.

Beth wyt ti’n fwynhau fwyaf am dy swydd?

Heb os, y rhyngweithio! Boed hynny hefo cyd-weithwyr lleol neu dros Gymru, partneriaid fel Gyrfa Cymru, timau cyflogadwyedd, y cyhoedd – dwi’n dod ar draws rhywun newydd bob dydd. Dwi’n mwynhau hyn hyd yn oed fwy rŵan hefo pethau yn agor fyny yn araf bach ar ôl y cyfnodau clo ac ati – mae hi’n braf mynd i a threfnu digwyddiadau wyneb-yn-wyneb eto.

Dwi hefyd yn mwynhau’r ffaith bod gen i dipyn o gyfleoedd i fod yn greadigol ac i arbrofi hefo pethau newydd – dwi di bod yn gwneud ffeiriau swyddi ar-lein, wyneb-yn-wyneb, fideos a dwi ar fin dechrau arbrofi hefo podlediadau. Dwi’n lwcus o weithio mewn swydd lle mae cyfle i mi ddysgu sgiliau newydd yn aml iawn a lle dwi’n derbyn y gefnogaeth a’r anogaeth i fynd amdani!

Beth oeddet ti’n wneud cyn y swydd yma?

Cyn y cyfnod clo mawr ges i swydd rhanbarthol yn gweithio ar ymgyrch Gofalwn Cymru yn gweithio fel Cydlynydd i’r ymgyrch yma yn y Gogledd. Roedd y rôl yn golygu gweithio dros 6 awdurdod y Gogledd ond roeddwn wedi fy lleoli yma yng Ngwynedd. Mae’n siŵr mai’r hysbyseb teledu – ‘gwên o glust i glust’ fuasai’r ffordd y byddai’r mwyafrif ohono chi yn gyfarwydd hefo’r ymgyrch, ac mi ges i flwyddyn a hanner hapus iawn yn gweithio arni er heriau y pandemig. Roedd y rôl rhanbarthol wedi helpu i dynnu sylw at yr angen am rywun i wneud y swydd yn lleol yma yng Ngwynedd.

A cyn hynny?

Mi wnes i raddio o Brifysgol Bangor mewn Busnes a Marchnata nôl yn 2015 a doedd gen i ddim lot o syniad be oni wir eisiau ei wneud. Ar ôl blwyddyn o weithio mewn Fferyllfa yn Nefyn, es i a’r backpack i De Ddwyrain Asia, yna i weithio fel Au-pair yn ochrau Barcelona am dri mis ac wedyn ar drip rownd Croatia.

Ar ôl sbel o gael fy nhraed nôl oddi tanaf, dyma fi’n dechrau chwilio am swyddi a chael un efo’r Cyngor. Mi wnes i weithio am ychydig dros flwyddyn yn Cefnogol yn gwneud DBS’s yn bennaf ac yma ges i sylfaen dda o ddod i adnabod y Cyngor, ei hadrannau amrywiol a mwydro hwn a’r llall.

Wnaeth hi ddim cymryd yn rhy hir i’r hen ‘itchy feet’ ddod yn nôl ac i ffwrdd â mi i deithio rownd De America am saith mis. Roeddwn yn ffodus iawn gan y ces i gynnig fy hen swydd yn nôl yn Cefnogol pan oeddwn i’n barod i ddychwelyd.

Os allwch chi feddwl am rywun sy’n gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol fuasai yn hapus i gyflwyno eu stori ar ffurf fideo, podlediad neu unrhyw fodd arall, plîs cysylltwch hefo Gwenno ar GwennoAngharadWilliams@gwynedd.llyw.cymru