720px-Andrew

Llwyddodd y Gwasanaeth Ieuenctid i gyrraedd rhestr fer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022 ac aeth y Gwasanaeth ymlaen i ennill y ddwy wobr mewn seremoni a gynhaliwyd yn Abertawe ym mis Rhagfyr.

Fe enillodd Andrew Owen sy’n Weithiwr Ieuenctid y wobr ‘Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol’ ac fe enillodd y digwyddiad Gŵyl Llesiant: Ieuenctid Gwynedd y wobr ‘Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth ar lefel leol.’

Mae'r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a'r rhai sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Cafodd Andrew ei enwebu am y Wobr ‘Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol’ gan y bobl ifanc y mae’n gweithio â nhw. Fe wnaethant nodi ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau gan gynnwys eu helpu gyda’u hyder yn ogystal â gwneud iddynt deimlo’n ddiogel, hapus ac yn werthfawr.

Mae Andrew yn hynod o weithgar yn ardal Dwyfor,  mae hyn yn cynnwys gweithio mewn dwy ysgol uwchradd a gwahanol gymunedau’r ardal - gydag effaith bositif iawn yn lleol. Fe dynnodd y beirniaid sylw at frwdfrydedd Andrew dros addysgu a dysgu yn ogystal â’i ymrwymiad a'i agwedd gadarnhaol.

Dywedodd Andrew: “Roedd hi’n fraint fawr cael fy enwebu gan y bobl ifanc, roeddwn yn teimlo fy mod wedi curo’n barod dim ond wrth gael fy enwebu, ond roedd ennill y wobr yn Abertawe yn deimlad bythgofiadwy. Rwyf wastad wedi teimlo balchder mawr yn fy ngwaith ac mae’r wobr yma i’r bobl ifanc hefyd oherwydd heb eu brwdfrydedd ac eu parodwydd i gymryd rhan yn y sesiynau dwi’n eu darparu, ni fysa dim o hyn yn bosib.

“Mae’n fraint enfawr cael bod yn rhan o’u bywydau ac i obeithio datblygu ei sgiliau at y dyfodol. Dwi hefyd yn falch bod y bobl ifanc yma yn amlygu’r gwaith yr ydym ni fel Gweithiwr Ieuenctid yn ei wneud ar draws y sir.”

Meddai Annette Ryan, Arweinydd Gwaith Cymorth Ieuenctid: “Gwobr haeddiannol iawn i Weithiwr Ieuenctid ardderchog yma yng Ngwynedd. Gyda’i brofiad helaeth o waith ieuenctid, ac wrth gwrs ei gymwysterau, mae Andrew yn gweithio’n dawel ac yn ddiflino gyda brwdfrydedd er lles pobl ifanc.

“Mae ganddo ddawn arbennig iawn o helpu pobl ifanc i adeiladu hyder, teimlo’n ddiogel a bod yn rhan bwysig o’u cymuned. Fel mae pobl ifanc wedi’i ddweud yn barod, mae Andrew yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar eu bywydau ac mae pawb yn hapus yn ei gwmni. Rwyf mor falch ohono ac rydym yn lwcus iawn fel gwasanaeth i gael Andrew gyda ni.’’

Cafodd Gŵyl Llesiant 2022 ei chynnal dros gyfnod o wythnos ledled Gwynedd gyda’r nod o ddod â sefydliadau at ei gilydd er mwyn hybu iechyd a lles meddyliol a chorfforol ymhlith pobl ifanc y sir. Fe wnaeth pobl ifanc chwarae rôl flaenllaw iawn wrth arwain y prosiect, gydag ymarferwyr gwaith ieuenctid yn eu cefnogi drwy gydol y cyfnod.

Nododd y beirniaid fod yr ŵyl wedi helpu i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau ar gyfer y dyfodol, ac yn brawf y gall asiantaethau a gwasanaethau gyd-weithio gyda’i gilydd er mwyn gwella profiadau pobl ifanc.