720px-Hannah

Enw: Hannah Williams

Byw: Gellilydan

Swydd: Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau

Cymhwyster: MA Rheoli Digwyddiadau Creadigol/MA Creative Events Management

Cefndir:

Mynychais ysgol uwchradd Ysgol Y Moelwyn ac es ymlaen i gwblhau fy lefelau A yn Ysgol Dyffryn Conwy. Cwblheais fy ngradd mewn rheoli digwyddiadau ym mhrifysgol John Moores Lerpwl yn 2019.

Fy mwriad ar ôl gorffen yn y brifysgol oedd dychwelyd adref i Wynedd a gobeithio cael swydd llawn amser, o fewn y maes digwyddiadau. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael swydd dros dro fel cydlynydd digwyddiadau ym Mhortmeirion. Mi wnes i fwynhau fy amser yno a chefais brofiadau gwych o weithio ar nifer o briodasau, cynadleddau a digwyddiadau arbennig.

Yn ystod y cyfnod clo, cefais newid fy ngyrfa a gweithiais fel cynghorydd myfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Yn dilyn y swydd honno, cefais fy mhenodi'n swyddog cyfoethogi myfyrwyr.

Roeddwn yn ymwybodol o Gynllun Yfory ac yn deall ei fod yn gyfle ei  gwych i weithio i'r awdurdod lleol a hefyd gwblhau gradd meistr ochr yn ochr â gweithio'n llawn amser. Felly pan ddaeth y cyfle i wneud cais am swydd hyfforddai proffesiynol mewn rheoli digwyddiadau ar y cynllun, ni feddyliais ddwywaith am gyflwyno cais. Roeddwn yn ymwybodol bod y Cyngor yn cefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau ac y byddai bod yn rhan o hynny yn rhoi profiad rhagorol i mi a chyfle gwych i mi ddatblygu fy sgiliau yn ogystal â rhwydweithio â chwaraewyr allweddol o fewn y diwydiant digwyddiadau.

Rwyf wedi bod yn y rôl hyfforddai proffesiynol ym maes rheoli digwyddiadau ers 4 mis ac wedi cael y croeso a'r profiadau gorau. Byddaf yn dechrau fy nghwrs meistr ym mis Ionawr. Rwy'n gyffrous iawn i ddychwelyd yn ôl i addysg. Ar ôl cwblhau fy ngradd meistr, byddaf yn cymryd y rôl rheolwr digwyddiadau. Rwy'n gobeithio y byddaf wedi cael cyfle i ddatblygu'r amryw o sgiliau fydd eu hangen arnaf yn ystod y cyfnod o 3 blynedd cyn cymryd y rôl yma ymlaen.