720px-Miriam

Enw: Miriam Elen Roberts

Byw: Bangor

Swydd: Cyfreithiwr

Cymhwyster: LPC (Gaer) a Chwrs Sgiliau Proffesiynol

Cefndir:

Wedi dewis y Gyfraith yn Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac yn ei fwynhau, felly dewis mynd ymlaen i wneud hyn ym Mhrifysgol Sheffield. Mi wnes i gwblhau gradd yn y Gyfraith gyda Throseddeg. Tra yn y brifysgol, ar ôl gwneud ambell i brofiad gwaith, roeddwn wedi penderfynu nad oeddwn eisiau mynd i weithio fel cyfreithiwr yn syth ar ôl y brifysgol, ond mi oeddwn i yn mwynhau dysgu.

Penderfynais fynd i wneud Ymarfer Dysgu (PGCE) er mwyn dysgu'r Gyfraith fel pwnc Lefel A. Am ei bod hi’n anodd cael cwrs o’r fath, nid oedd llawer o Brifysgolion yn ei gynnig. Llwyddais gael lle ar gwrs, a chwblhau’r ymarfer dysgu trwy Brifysgol Southampton, ac yna gael swydd mewn coleg yn dysgu’r Gyfraith am 2 flynedd ac yn byw yn Ne Lloegr.

Yn lwcus iawn, mi wnaeth amgylchiadau newid ac roedd hynny’n golygu ei bod hi’n bosib i mi symud adref i Chwilog yn 2019 i astudio’r LPC yn Nghaer. Llwyddais ar y cwrs, ac yna cefais swydd yng Nghyngor Gwynedd drwy Gynllun Yfory yn 2020 i ddechrau ar Gytundeb Hyfforddiant.

Roeddwn ni mor falch o gael swydd yn yr ardal leol, lle’r oeddwn yn prynu tŷ. Ar ôl amser i ffwrdd o’r ardal, rydw i’n gwerthfawrogi adref gymaint mwy ac yn falch iawn o gael gweithio dros yr ardal yn y Gymraeg.