Mae trigolion Gwynedd ymhlith yr hapusaf yng Nghymru. 'Does syndod a dweud y gwir, o ystyried bod rhan helaeth o'r sir o fewn ardaloedd o harddwch eithriadol, yn cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri. Gydag amgylchedd glân a hamddenol, mae arfordir a mynyddoedd Gwynedd yn hafan ddelfrydol i adfywio'r enaid.  

Mae ein cymunedau ymhlith y mwyaf diogel yn y wlad, a'n dwyieithrwydd naturiol yn cyfoethogi'r diwylliant lleol ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'n lle gwych i fagu’r genhedlaeth nesaf, ac mae'r ysgolion a cholegau addysg bellach sydd yn y sir yn cynnig addysg a hyfforddiant heb eu hail.  

Yn syml, mae Gwynedd yn lle anhygoel i fyw.

ystadegau-gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn ...

  • Gwasanaethu 125,171 o bobl Gwynedd
  • Gorchuddio 2,525 km sgwâr
  • Un o gyflogwyr mwyaf y sir, yn cyflogi dros 7,000 o staff (3,000 llawn amser / 4,000 rhan amser)

Mae gan Wynedd ...

  • 29.6% o’r gweithlu yn gweithio yn y meysydd Addysg ac Iechyd
  • 2,896 km o ffyrdd
  • Oddeutu 61,000 o anheddau
  • 301 km o arfordir
  • 65% o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg

Llesiant Gwynedd a Môn | Asesiad Llesiant Gwynedd

Ymweld ag Eryri: Eryri Mynyddoedd a Môr