Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog.  

Rydym yn flaengar yn ein defnydd o’r Gymraeg yma ac wedi gwneud enw i’n hunain fel cyflogwr sy'n arwain yn y maes.  

Mae Polisi Iaith Cyngor Gwynedd yn cadarnhau ein hymrwymiad i gadw at egwyddorion Safonau’r Gymraeg, i fanteisio ar bob cyfle posib i annog trigolion y Sir i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddefnyddio’n gwasanaethau, ac yn adlewyrchu uchelgais Cyngor Gwynedd i hybu a chodi statws y Gymraeg drwy ei holl waith. 

 

Ymgeisio am swydd gyda ni

Wrth ymgeisio am swydd gyda ni bydd angen cyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi ym Manylion Person y swydd.  

Bydd rheolwyr yn penderfynu ar union lefel y gallu a’r sgiliau cyfathrebu fydd eu hangen ar gyfer cyflawni holl ofynion y swydd (gwrando a siarad, darllen a deall ac ysgrifennu) drwy ddefnyddio Fframwaith Iaith y Cyngor.  

Rydym yn annog pawb sy’n gwneud cais am swydd gyda Chyngor Gwynedd i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad, ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).  

Mewn amgylchiadau arbennig (e.e. os ydym wedi methu penodi rhywun sydd â’r holl sgiliau hanfodol ar yr ail ymgais) gall fod yn addas penodi unigolion sydd â’r sgiliau eraill perthnasol ac sy’n dangos ymrwymiad i ddatblygu’r sgiliau ieithyddol dros amser. Yn yr achosion hynny, bydd Gwasanaeth Dysgu a Datblygu’r Sefydliad yn gallu darparu cymorth a threfnu hyfforddiant pwrpasol, a bydd rhaglen ddatblygu addas yn cael ei llunio mewn cytundeb rhwng Cyngor Gwynedd fel y cyflogwr, y rheolwr, a deilydd y swydd er mwyn pontio’r bwlch rhwng sgiliau’r unigolyn a’r sgiliau ieithyddol sy'n ofynnol ar gyfer y swydd.

 

Beth sydd gan ein gweithwyr i'w ddweud?

Gwrandewch ar straeon ein gweithwyr i ddysgu mwy am y gyrfaoedd a’r cyfleoedd sydd ar gael yn y Cyngor:

Straeon gweithwyr