Mae Cyngor Gwynedd yn gyflogwr ymroddedig tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn barod i sicrhau cynhwysiad yn y gweithle. Rydym yn gweithio’n barhaus i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth, gweld cynnydd mewn cyfleoedd cyfartal a meithrin perthnasau da rhwng pobol sydd â nodweddion gwarchodedig a’r rhai sydd heb y nodweddion hyn. Mae gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau tegwch i holl bobl Gwynedd ac yn ôl eu hanghenion. 

 

Anabledd

Mae Cyngor Gwynedd yn gyflogwr cynhwysol o ran anabledd ac yn benderfynol ein bod yn cyd-weithio gydag ymgeiswyr i sicrhau cyfleodd cyfartal iddynt ac i’w cefnogi gydag addasiadau rhesymol fel bo’r angen.   

Fel cyflogwr rydym yn: 

  • Cynnig cyfweliad i bobl anabl sy’n bodloni gofynion hanfodol manylion y person y swydd 

  • Dangos hyblygrwydd wrth asesu pobl fel y gall ymgeiswyr anabl gael y cyfle gorau mewn cyfweliad 

  • Cynnig a gwneud addasiadau rhesymol pan fo’r angen yn codi  

  • Sicrhau bod gan ein staff ymwybyddiaeth briodol o gydraddoldeb anabledd 

  • Gwefan fewnol wedi’i dylunio ar gyfer staff i godi ymwybyddiaeth am gydraddoldeb ac arbenigwyr i gefnogi a chynghori ar brosesau gweithio 

  • Sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i ddatblygiad a chynnydd staff anabl 

Dysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i ymgeiswyr anabl

 

Merched Mewn Arweinyddiaeth

Rydym yn rhagweithiol wrth geisio sicrhau bod merched yn cael eu cefnogi i ystyried ac ymgeisio am swyddi rheoli ac arwain yng Nghyngor Gwynedd ac yn ceisio canfod a chael gwared ar rwystrau sy’n dal rhai merched yn ôl yn eu gyrfa.     

Mae’r rhaglen ‘Merched Mewn Arweinyddiaeth’ yn rhedeg yn gyson ac mae’n boblogaidd iawn ymysg ein staff.  Mae'n rhoi cyfleon i ferched fod yn rhan o fforymau a gweithgareddau datblygol, er enghraifft:  

  • Gweithdai i godi ymwybyddiaeth o'r hyn mae'r grŵp yn ceisio ei gyflawni;  

  • Cyfleoedd rhwydweithio i ferched - nid yn unig gyda merched o fewn Cyngor Gwynedd ond hefyd merched o’r tu allan I'r Cyngor, i rannu profiadau ac ymarfer da 

  • Cyfleoedd i wrando ar siaradwyr gwadd ysbrydoledig;   

  • Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu.  

Marian Evans - Elevate BC

“Rwyf wedi fy nghyffroi gan y gwaith anhygoel yr ydych yn ei wneud yng Ngwynedd ac ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi yn arweinwyr y dyfodol. Dydyn ni ddim yn gweld hyn yn aml!”

Marian Evans, Elevate BC 


Mae’r rhaglen yn datblygu sgiliau merched i gynyddu eu dylanwad ac effaith, yn rhoi hwb i'w hyder, yn eu galluogi i adeiladu ar rwydweithiau proffesiynol ac yn caniatáu iddynt adlewyrchu a gyrru ymlaen gyda phersbectif newydd. 

Mae Cyngor Gwynedd yn ceisio codi ymwybyddiaeth a rhoi ffocws ar werth a phwysigrwydd merched yn y gweithle ac yn cynnig digwyddiadau i ddynion o fewn y Cyngor, yn ogystal a merched.   

Mae'r holl weithgaredd yma'n cyfrannu at un o brif flaenoriaethau’r Cyngor (Gwynedd Effeithlon) o ran lleihau anghydraddoldeb o fewn y sir a hybu diwylliant gweithio agored a chynhwysol.