• Yma yng Nghyngor Gwynedd cewch gyfle i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws pob swydd, sector ac ardal o fewn y Sir.  
  • Cymraeg yw prif iaith weinyddol y Cyngor. Golygai hyn ein bod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad sydd yn defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd yn y gweithle.  
  • Drwy ymuno â ni, gallwch fanteisio ar gyfleon i ddatblygu eich sgiliau ieithyddol. Mae hyfforddiant yn cael ei gynnig i ddysgu Cymraeg ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, a hynny ar draws pob lefel.  
  • Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru ac hefyd yn cymryd camau pellach i hybu ac hwyluso defnydd o’r Gymraeg ar draws y Sir drwy ein Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd.

Am fwy o wybodaeth: