Mae iechyd a lles ein staff yn flaenoriaeth gennym ac rydym yn ceisio creu amgylchedd gwaith positif ble mae staff yn ffynnu. Yn ddiweddar, rydym wedi ennill Lefel Aur trwy Safon Iechyd Corfforaethol Llywodraeth Cymru am ein gofal o lesiant ein staff. Dyma rai enghreifftiau o gynlluniau sydd ar waith:

  • Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol 
  • Gwasanaeth Cwnsela MEDRA - gwasanaeth cwnsela cyfrinachol i swyddogion y Cyngor 
  • Profion llygaid am ddim, i swyddogion sy'n gwneud defnydd rheolaidd o Sgriniau Arddangos Gweledol (VDU's)