Mae sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod staff Cyngor Gwynedd yn derbyn boddhad yn eu gwaith. Mae ein polisïau a’n cynlluniau yn hybu hyn drwy’r trefniadau canlynol:
 

  • Cynllun gweithio oriau hyblyg (ble mae’r swydd yn caniatau hynny), gan gynnwys opsiynau e.e, oriau ystwyth (fflecsi), gweithio’n hybrid neu o adref, oriau cywasgedig, cynllun rhannu swydd, gweithio tymor ysgol, oriau blynyddol, rhan amser neu achlysurol.    
  • Hawl i rhwng 23 a 36 diwrnod o wyliau'r flwyddyn yn ddibynnol ar raddfa'r swydd a hyd gwasanaeth. Yn ogystal, mae gan weithwyr hawl i 8 diwrnod o wyliau banc / gwyliau cyhoeddus a 3 1/2 diwrnod ychwanegol. 
  • Absenoldeb gyda thâl mewn amryw o amgylchiadau arbennig, e.e. profedigaeth, apwyntiadau meddygol, ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus. 
  • Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu ac absenoldeb a rennir. 
  • Absenoldeb ychwanegol heb dâl i rieni a gofalwyr a chyfle i weithio'n hyblyg os oes angen.