Mae’r Cyngor yn cynnig amrywiaeth eang o fuddion fydd yn eich hybu eich iechyd ac yn arbed arian i chi gan gynnwys:

  • Arbedion ffordd o fyw - Gellir defnyddio ein cerdyn Vectis ledled y DU ar frandiau enw mawr a gyda busnesau lleol cofrestredig. Arbedwch arian ar fwydydd, gwyliau, bwyta allan, DIY, offer trydanol, yswiriant, moduro a llawer mwy! 
  • Aelodaeth canolfannau hamdden - Aelodaeth gostyngol i Ganolfannau Hamdden Byw’n Iach. 
  • Benthyciadau neu Brydlesu Car – Mae benthyciadau ar gael i rai gweithwyr er mwyn iddynt brynu car. Yn ogystal, mae cyfle i wneud eich cyflog fynd lawer ymhellach gyda’n cynllun prydlesu ceir.
  • Beicio i’r Gwaith - Mae’r cynllun Beicio i’r Gwaith yn caniatáu i rai gweithwyr brynu beic trwy aberthu cyflog. Mae hyn yn arbed arian iddynt yn ogystal ag hyrwyddo eu hiechyd. 
  • Meddalwedd TG a Ffonau Symudol - Mae gan weithiwr fynediad at bris gostyngol ar gontractau ffôn symudol, e.e. Vodaphone ac EE ac hefyd ar feddalwedd Microsoft Office. 
  • Cymorth i Deuluoedd - Cymorth gwych i rieni gan gynnwys gwell tâl mamolaeth, tâl mabwysiadu a thâl tadolaeth, talebau gofal plant ac arferion gweithio hyblyg. 
  • Drwy dalu drwy ddidyniadau cyflog gallwch ymuno â WHA ac arbed ar gostau optegol, deintyddol, cwnsela, ffisiotherapi ac arosiadau yn yr ysbyty, yn ogystal â chael budd-dal damweiniau personol.