Os byddwch yn llwyddiannus mewn cyfweliad, bydd penodiad yn amodol ar wiriadau cyn cyflogaeth sydd yn cynnwys:

 

Fel rhan o’ch cais, byddwch wedi cyflwyno enw a manylion cyswllt gan dau unigolyn a bydd un o’r heini angen fod yn gyflogwr presennol neu gyflogwr fwyaf diweddar. Dim ond pan fyddwch newydd adael yr ysgol neu heb gael eich cyflogi mewn unrhyw swyddogaeth y bydd cyfeiriadau cymeriad yn dderbyniol.  

Os am be bynnag reswm, mae’r rheolwr llinell angen unrhyw dystlythyrau gan gyn gyflogwr ychwanegol mae posib gwneud hyn e.e. os oes unrhyw fylchau mewn cyflogaeth neu os ydych wedi newid swyddi yn aml. 

Os ydych yn ymgeisydd mewnol neu ymgeisydd o lywodraeth leol arall, bydd angen tystlythyr boddhaol gan reolwr llinell cyfredol yn unig.  

Swyddi DBS  

Bydd y Cyngor yn cysylltu a’r ddau ganolwr cyn y cyfweliad. 

Os nad ydych yn gweithio gyda phlant neu oedolion bregus ar hyn o bryd, ond wedi gwneud hynny yn y gorffennol, mae’n bwysig cael tystlythyr gan y cyflogwr fwyaf diweddar gyda phlant neu oedolion bregus. 

Os ydych yn ymgeisydd mewnol neu ymgeisydd o lywodraeth leol arall, ac os nad ydych yn gweithio gyda phlant neu oedolion bregus ar hyn o bryd, ond wedi gwneud hynny yn y gorffennol, mae’n bwysig cael tystlythyr gan y cyflogwr fwyaf diweddar gyda phlant neu oedolyn bregus.

Os yn llwyddiannus i gael eich galw am gyfweliad mae’n ofynnol yn unol â’r Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 bod pob Cyflogwr yn gwneud archwiliad sylfaenol i sicrhau nad ydynt yn torri’r gyfraith o fod yn cyflogi person yn anghyfreithlon. 

Mae angen i chwi ddod ac un o’r dogfennau gwreiddiol canlynol gyda chwi i’r cyfweliad; 

1. Eich pasbort neu 

2. Tystysgrif geni llawn sy’n cynnwys enw rhiant a P45 neu P60 neu 

3. Gerdyn adnabod cenedlaethol. 

Os byddwch yn cael cynnig y swydd ac y byddwch yn derbyn yna mae angen bod copi o’r dogfennau perthnasol ar eich ffeil personél. 

Mae hi’n angenrheidiol eich bod yn dod â thystiolaeth o’ch cymwysterau gyda chi i’r cyfweliad. Os byddwch yn cael cynnig y swydd ac yn derbyn mae angen bod copi o’ch tystysgrif/au cymwysterau ar eich ffeil personél.

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer swyddi sydd yn ymwneud a phlant neu oedolion 

bregus wneud cais am ddatgeliad gan y DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Bydd ymgeiswyr 

llwyddiannus ar gyfer swyddi o’r fath yn derbyn e-bost fydd yn cynnwys linc a chanllawiau sut i 

gwblhau ffurflen ar lein.