Uwchsgilio, newid gyrfa a tlodi gwaith

Amcangyfrifir y bydd gan y person cyffredin 12 o swyddi yn ystod ei oes. Os ydych yn chwilio am swydd newydd neu eisiau cadw mewn cysylltiad am gyfleoedd yn eich ardal, ymunwch â'n hysbysfwrdd swydd gwag ar Facebook

Mae Gwaith Gwynedd yma i’ch cefnogi gyda:

  • uwchsgilio i ddatblygu sgiliau a/neu gymwysterau newydd
  • gyda dilyniant posibl i yrfa newydd 

Mae Gwaith Gwynedd yn cynnig:

  • cyngor dwyieithog cyfeillgar,
  • cymorth os ydych mewn gwaith ac mewn perygl o fod mewn tlodi,
  • cyfeirio at asiantaethau eraill,
  • mentora 1:1 i helpu i ddatblygu sgiliau unigolion,
  • cefnogaeth i greu eich CV a chais am swydd,
  • nodi bylchau sgiliau ac anghenion hyfforddi,
  • cymorth i ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant dysgu NVQ seiliedig ar waith,
  • creu Cynllun Datblygu Personol.

 

Cyfeirio

Er mwyn creu cyfeiriad plîs cwblhewch yr holiadur canlynol:

Holiadur Gwaith Gwynedd