Cwblhau a chyflwyno ffurflen gais yw’r cam cyntaf yn y broses recriwtio a phenodi, ac fe allai arwain at dderbyn gwahoddiad am gyfweliad. Mae’r penderfyniad i’ch gwahodd i gyfweliad yn dibynnu’n llwyr ar yr wybodaeth yr ydych chi yn ei chynnwys yn y gais, ac mae’n hollbwysig felly eich bod yn ei chwblhau yn llawn ac eglur. 

 

Fe fydd y canllawiau yma o gymorth i chi wrth wneud hynny. 

Cyn cwblhau’r ffurflen, dylech ddarllen yr holl wybodaeth am y swydd yn ofalus. Mae’r Swydd 

Ddisgrifiad a’r Manylion y Person yn arbennig o bwysig. Mae’r Swydd Ddisgrifiad yn disgrifio beth yw tasgau a chyfrifoldebau’r swydd, gan felly roi disgrifiad manwl o natur y gwaith. Mae’r Manylion y Person yn datgan pa fath o gymwysterau, profiad, sgiliau a nodweddion y dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn berchen arnynt er mwyn cyflawni dyletswyddau’r swydd yn effeithiol. Bydd yr wybodaeth am y swydd yn eich helpu i lenwi’r cais yn y modd gorau posib. 

  

Cofiwch - Peidiwch â thybio ein bod yn gwybod am eich cymwysterau, profiad a galluoedd. Mae’n rhaid i chi brofi i ni eich bod yn cyrraedd anghenion y swydd.  

  

Cwblhau’r cais 

Mae'r canllawiau sy'n dilyn yn cyfateb â gwahanol rannau o'r cais ac yn esbonio'n glir beth ddylech roi ym mhob rhan.

Dyma’r wybodaeth sylfaenol yr ydym ei hangen er mwyn ein galluogi i gysylltu â chi. Mae’n ofynnol eich bod yn rhoi cyfeiriad e-bost neu rhif ffôn symudol er mwyn i ni fedru cysylltu yn ôl â chwi.

Yn y rhan yma, dylech roi manylion eich swydd bresennol, neu’ch swydd ddiweddaraf. Rhowch hefyd ddisgrifiad byr o’ch prif ddyletswyddau a’ch cyfrifoldebau presennol, ond peidiwch â mynd i ormod o fanylder.

Rhowch fanylion y cymwysterau addysgol a galwedigaethol sydd gennych, ac yn arbennig felly y cymwysterau sy’n berthnasol i’r swydd yr ydych yn ymgeisio amdani. Cofiwch nodi ym mha ysgol, coleg a.y.y.b. y cawsoch y cymhwyster, y pwnc, a beth oedd natur y cymhwyster (Gradd, TGAU, Lefel A a.y.y.b.) a’r gradd a roddwyd i chi. Mae’n bosib fod angen cymhwyster penodol ar gyfer y swydd. Bydd unrhyw fanylion o’r fath wedi ei nodi’n glir fel nodwedd hanfodol neu ddymunol yn y Manylion y Person. 

  

Cofiwch ei bod hi’n angenrheidiol eich bod yn dod â thystiolaeth o’ch cymwysterau gyda chi i’r cyfweliad. Os byddwch yn cael cynnig y swydd ac yn derbyn mae angen bod copi o’ch tystysgrif/au cymwysterau ar eich ffeil personél.

Nodwch unrhyw gyrff proffesiynol yr ydych yn aelod ohonynt. 

Unwaith eto, mae’n bosibl fod Manylion y person y swydd yn nodi bod aelodaeth o gorff arbennig yn hanfodol neu ddymunol ar gyfer y swydd, ac felly dylech sicrhau eich bod yn gwirio’r 

wybodaeth. Cofiwch ei bod hi’n angenrheidiol eich bod yn dod â thystiolaeth o’ch aelodaeth gyda 

chi i’r cyfweliad os yn berthnasol i’r swydd.

Rhowch fanylion yr holl hyfforddiant cyfredol perthnasol i'r swydd. 

Nodwch fanylion y cwrs/cyrsiau, pwy oedd y darparwr/wyr e.e. Coleg, a'r dyddiad y cafodd yr 

hyfforddiant ei gwblhau. Rhowch fanylion yr hyfforddiant diweddaraf yn gyntaf.

Dylech ddarllen beth yw gofynion anghenion ieithyddol y swydd yn ofalus gan benderfynu os ydych chi’n cyrraedd y lefel angenrheidiol. Cofiwch bydd eich gallu ieithyddol yn cael ei asesu yn ystod y cyfweliad. 

Nodwch bob cyfnod o waith perthnasol. Dylech hefyd gofnodi pob cyfnod di-waith, magu teulu, gweithio’n wirfoddol, neu unrhyw doriad mewn gyrfa. Wrth gofnodi dyddiadau’r gyflogaeth, ceisiwch roi’r union ddyddiad ar gyfer dechrau a gorffen y swydd. Rhowch y swydd diweddaraf yn gyntaf.

Dyma ran bwysicaf y ffurflen gais.  

Dyma eich cyfle i esbonio pam y dylech chi gael eich penodi i’r swydd. Fel cyflwyniad byr, dylech ddweud pam eich bod yn ymgeisio am yswydd. Yna darllenwch y Manylion y Person a’r Swydd Ddisgrifiad yn ofalus ac ewch ati i esbonio sut yr ydych chi yn cwrdd â’r gofynion ar gyfer y swydd, gan roi enghreifftiau penodol fel tystiolaeth. Fel y mae’r cais ei hun yn esbonio, dylech ateb bob pwynt sydd yn y Manylion y Person(ar wahân i’r gofynion ieithyddol) yn yr union drefn y maent yn ymddangos yn y Manylion, gan y bydd hyn o gymorth i’r panel penodi wrth lunio rhestr fer.

Mae’r Cyngor am i chi ddatgelu manylion unrhyw ddedfryd droseddol sydd gennych (ar wahân i rai sy’n dreuliedig). Darllenwch y canllawiau i gyd, gan gynnwys y tabl isod ac yna nodwch y manylion yn y blwch perthnasol. Os nad oes dim gennych i’w ddatgelu, mae’n bwysig eich bod yn nodi ‘Dim’ ar y cais. Bydd yr wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol.  

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer swyddi sydd yn ymwneud a phlant neu oedolion 

bregus wneud cais am ddatgeliad gan y DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Bydd ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer swyddi o’r fath yn derbyn e-bost fydd yn cynnwys linc a chanllawiau sut i gwblhau ffurflen ar lein.  

Tabl Cyfnodau Adsefydlu
 Dedfryd neu benderfyniad  Cyfnod adsefydlu i bobl sy'n 18 oed neu'n hŷn adeg y gollfarn neu adeg gweithredu'r penderfyniad  Cyfnod adsefydlu i bobl o dan 18 oed adeg y gollfarn neu adeg gweithredu'r penderfyniad    
Dedfryd o garchar o fwy na 4 blynedd (nid ar gyfer trosedd atodlen 18)  Diwedd y cyfnod o 7 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y cwblheir y ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod trwydded)  Diwedd y cyfnod o 42 mis sy’n dechrau ar y diwrnod cwblheir y ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod trwydded) 
Dedfryd o garchar* o fwy na 1 blwyddyn a hyd at, neu’n cynnwys, 4 blynedd  Diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechau ar y diwrnod y cwblheir y ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod trwydded)   Diwedd y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y cwblheir y ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod trwydded)  
Dedfryd o garchar o flwyddyn neu lai   Diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y diwrnod y cwblheir y ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod trwydded)   Diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau ar y diwrnod y cwblheir y ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod trwydded)  
Dedfryd o gadw ar wasanaeth    1 flwyddyn o ddyddiad cwblhau'r ddedfryd    6 mis o ddyddiad cwblhau'r ddedfryd  
Diswyddiad o Wasanaeth Ei Mawrhydi  1 flwyddyn o ddyddiad y gollfarn   6 mis o ddyddiad y gollfarn  
Dirwy 1 flwyddyn o ddyddiad y gollfarn pan osodwyd y ddirwy  6 mis o ddyddiad y gollfarn pan osodwyd y ddirwy 
Cerydd neu gerydd difrifol o dan y Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006  1 flwyddyn o ddyddiad y gollfarn pan osodwyd y ddirwy  6 mis o ddyddiad y gollfarn pan osodwyd y ddirwy 
 Arnodiadau gyrru    5 mlynedd o ddyddiad y gollfarn     2 flynedd a 6 mis o ddyddiad y gollfarn  
 Gwaharddiad gyrru    Pan fydd cyfnod y gwaharddiad wedi dod i ben    Pan fydd cyfnod y gwaharddiad wedi dod i ben 
Rhybudd syml, rhybudd ieuenctid **   Wedi treulio ar unwaith    Wedi treulio ar unwaith 
Rhybudd amodol, rhybudd amodol ieuenctid, rhybudd dargyfeiriol**   3 mis neu pan fo'r rhybudd wedi darfod os yn gynt   3 mis neu pan fo'r rhybudd wedi darfod os yn gynt 
 Gorchymyn iawndal   Y dyddiad y gwneir y taliad yn llawn  Y dyddiad y gwneir y taliad yn llawn  
 Rhyddhad diamod    Wedi treulio ar unwaith    Wedi treulio ar unwaith 
Gorchmynion perthnasol***(gorchmynion sy'n gosod gwaharddiad, anabledd, neu gosb arall)  Y dyddiad gorffen a roddir gan y gorchymyn neu os na roddir dyddiad, 2 flynedd o ddyddiad y gollfarn - oni bai bod y gorchymyn yn nodi 'diderfyn', 'amhenodol' neu 'hyd nes y ceir gorchymyn pellach' gan y bydd yn parhau heb ei dreulio yn yr achosion hyn. Y dyddiad gorffen a roddir gan y gorchymyn neu, os na roddir dyddiad, 2 flynedd o ddyddiad y gollfarn - oni bai bod y gorchymyn yn datgan 'diderfyn', 'amhenodol' neu 'hyd nes y ceir gorchymyn pellach' gan y bydd yn parhau heb ei dreulio yn yr achosion hyn.

 

* Mae dedfrydau o garchar gohiriedig yn cael eu trin yr un fath â dedfrydau o garchar at y diben hwn. Hyd a ddedfryd a osodir gan y llys fydd hyn, nid y cyfnod y caiff ei ohirio am hynny sy’n pennu pryd y daw i ben.  

** Cyflwynwyd rhybuddion dargyfeiriol a rhybuddion cymunedol o dan Ddeddf PCSC 2022 a disgwylir iddynt ddod i rym yn 2024 

***Mae archebion perthnasol yn cynnwys

1.      Gorchmynion adsefydlu cymunedol ac ieuenctid 

2.      Gorchmynion rhyddhau amodol  

3.      Gorchmynion Ysbyty 

4.      Rhwymo 

5.      Gorchmynion cyfeirio 

6.      Gorchmynion gofal, a 

7.      Gorchmynion statudol cynharach a  

8.      unrhyw orchymyn sy’n gosod gwaharddiad, anabledd, cosb, gofyniad neu gyfyngiad, neu a fwriedir fel arall i reoleiddio ymddygiad y person a gollfarnwyd.  

Rehabilitation Periods - GOV.UK (www.gov.uk) 


Troseddau Moduro 

Rhaid i chi ddatgelu’r mathau isod o droseddau moduro:- 

  • Achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal,  
  • Gyrru’n ddiofal,  
  • Gyrru neu geisio gyrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd tra dan ddylanwad diod feddwol neu gyffuriau neu fethu â rhoi sampl i’w ddadansoddi er mwyn sefydlu addasrwydd i yrru.

https://www.gov.uk/guidance/rehabilitation-periods#rehabilitation-periods-table 

Nodwch enw, cyfeiriad a rhif ffôn dau ganolwr. Mae angen i un o’r Canolwyr fod eich cyflogwr presennol neu’r diweddaraf. Nid yw enwebu Aelodau Etholedig o Gyngor Gwynedd fel canolwr yn cael ei ganiatáu. 

 

Os ydych eisoes yn gweithio i'r Cyngor rhowch enw eich Rheolwr Llinell yn unig. Mewn amgylchiadau ble nad yw'r Rheolwr Llinell mewn sefyllfa i weithredu fel canolwr, rhowch enw eich Uwch Reolwr Llinell. 

 

Os yn ymgeisio am swyddi gweithgaredd rheoledig (swydd angen DBS). Dylai un canolwr fod yn 

gyflogwr presennol neu diweddaraf. Os rydych yn gweithio/ wedi gweithio yn y gorffennol gyda 

plant neu oedolion bydd angen rhoi manylion y cyflogwr fwyaf diweddar gyda phlant neu oedolion. 

 

Gofynnir am tystlythyrau cyn cyfweliad ar gyfer Swyddi rheoledig (angen DBS).

Dylech ystyried y canlynol cyn cyflwyno eich cais: 

Ni fydd cais unrhyw ymgeisydd sydd yn canfasio aelodau o Gyngor Gwynedd naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn cael ei ystyried. 

Rhaid i ymgeiswyr ddatgan os ydynt yn perthyn i unrhyw aelod neu uwch swyddog o’r Cyngor. 

Os na fydd ymgeiswyr yn datgan perthynas o’r fath, ni fydd y cais yn cael ei ystyried.

Polisi Cyngor Gwynedd yw penodi’r person gorau i bob swydd wag, beth bynnag yw eu statws priodas, crefydd neu gred, cyferiadedd rhywiol. 

Er mwyn sicrhau fod y polisïau’n cael eu gweithredu’n effeithiol, mae’r Cyngor am i chi gwblhau’r 

ffurflen monitro a chydraddoldeb. 

Sylwer - Mae’r wybodaeth sydd ar y ffurflen hon yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol, ac ni 

fydd yn cael ei hystyried o gwbl yn y broses penodi.

Cyflwynwch y cais dim hwyrach na'r dyddiad cau. Bydd y panel penodi yn defnyddio’ch cais er 

mwyn penderfynu os ydych yn gymwys ar gyfer cael eich rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad. 

Byddwn yn cysylltu hefo chwi drwy e-bost neu drwy neges destun i’ch hysbysu os ydych wedi bod 

yn llwyddiannus am gyfweliad ai peidio.