Pleidleisio Hygyrch

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, angen help i gofrestru neu i bleidleisio, cysylltwch â'r tîm etholiadau ar 01286 679623

Dylai pleidleisio ac etholiadau fod ar gael yn hawdd i bawb sydd â'r hawl gyfreithiol i bleidleisio, p'un a oes ganddynt anabledd ai peidio. Gwyddom y bydd angen mwy o gefnogaeth ar rai pobl nag eraill i ddefnyddio eu pleidlais – a bydd ein tîm etholiadau yn hapus i helpu. 

Bydd hysbysiadau print bras o bapurau pleidleisio ar gael i'w gweld ym mhob gorsaf bleidleisio, gellir eu defnyddio er gwybodaeth, ond rhaid i chi barhau i fwrw'ch pleidlais ar bapur pleidleisio print safonol fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Bydd cymorth a elwir yn ddyfais gyffyrddadwy ar gael i alluogi pleidleiswyr dall neu rai sydd â nam ar eu golwg i bleidleisio heb gymorth. Gofynnwch i staff yn yr orsaf bleidleisio am y ddyfais hon. Byddwch hefyd yn gallu gofyn i'r Swyddog Llywyddu (y person sy'n gyfrifol am yr orsaf bleidleisio) i'ch helpu, maent wedi'u rhwymo'n gyfreithiol gan yr Angen am Gyfrinachedd felly bydd eich pleidlais yn gyfrinachol.