Cofrestru i bleidleisio

Mae'n rhaid i chi fod ar y gofrestr cyn y gallwch chi bleidleisio mewn etholiad neu refferendwm yn y Deyrnas Unedig.

Nid oes rhaid cofrestru bob blwyddyn er mwyn i’ch enw fod ar y gofrestr.

Byddwch yn derbyn cadarnhad o'ch manylion trwy'r post rhwng Awst a Hydref pob blwyddyn a bydd angen i chi ymateb i'r cerdyn manylion yma er mwyn aros ar y gofrestr. 

Nid yw’r ffaith eich bod yn talu Treth Cyngor yn golygu eich bod ar y gofrestr yn awtomatig.

Os yw eich enw ar y gofrestr nid oes rhaid i chi bleidleisio.

Os nad yw eich enw ar y gofrestr mae’n bosib y byddwch yn cael trafferth wrth wneud cais am wasanaethau ariannol, e.e. agor cyfrif banc, gwneud cais am fenthyciad.


Pwy sy’n cael cofrestru i bleidleisio?

Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych:

  • yn 17 neu drosodd (ond ni chewch bleidleisio hyd nes y byddwch yn 18 mlwydd oed)
  • yn ddinesydd y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon neu’r Gymanwlad
  • yn ddinesydd un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yn y Deyrnas Unedig
  • yn ddinesydd Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Diriogaeth Tramor Prydeinig yn byw yn y Deyrnas Unedig


Sut mae cofrestu i bleidleisio?

Gallwch gofrestru i bleidleisio, a diweddaru eich manylion ar y gofrestr drwy fynd i wefan gov.uk

Mae gwybodaeth am y newidiadau cenedlaethol i'r drefn cofrestru i bleidleisio ar gael drwy fynd i: www.gov.uk/gwybodaethamgofrestru 


Y gofrestr etholiadol

Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn creu ac yn cadw 2 fersiwn o'r gofrestr:

  • Cofrestr gyflawn: Mae'r gofrestr gyflawn yn dangos enw pawb sydd â hawl i bleidleisio. Gallwch gadarnhau os ydych ar y gofrestr drwy ffonio 01766 771000. Mae’r gofrestr gyflawn yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau, atal a chanfod trosedd ac ymchwilio i geisiadau am gredyd.
  • Y gofrestr agored: Mae'r gofrestr agored yn cynnwys enwau a chyfeiriadau pawb sydd ddim wedi gwneud cais i beidio â bod ar y fersiwn honno o'r gofrestr. Mae cwestiwn ar y ffurflen gofrestru yn gofyn â ydych chi eisiau gwneud cais i gael eich eithrio o’r gofrestr agored. Gall unrhyw un wneud cais i brynu copi o'r gofrestr, a gellir ei defnyddio at unrhyw bwrpas, e.e. gweithgareddau masnachol fel marchnata.
    Ers 2008, mae Cyngor Gwynedd yn darparu data Treth Cyngor a’r Rhestr Etholwyr gyflawn i’r Comisiwn Archwilio. Bwriad hyn yw adnabod ac atal twyll drwy gymharu data. Er mwyn sicrhau cydymffurfiad llwyr gyda’r Ddeddf Gwarchod Data 1998, fe’ch hysbysir chi ymlaen llaw o’r bwriad i ddarparu’r data perthnasol a gedwir gan Gyngor Gwynedd. Bydd y Comisiwn Archwilio hefyd yn ymdrin â’r data yn unol â’r Ddeddf.


Sut fedra i gael gwybod os yw fy enw ar y Gofrestr agored?

Dwi’n fyfyriwr – lle ddylwn i gofrestru?
Mae gan fyfyrwyr hawl i gofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad eu cartref a’u cyfeiriad yn y brifysgol. Mae’n drosedd i bleidleisio fwy nag un waith mewn etholiad cenedlaethol ond fe gewch chi bleidleisio mewn etholiadau lleol, e.e. i ddewis cynghorydd lleol, yn y ddau gyfeiriad cyn belled â’u bod mewn ardaloedd pleidleisio gwahanol.


Dwi yn y Lluoedd Arfog – sut ddylwn i gofrestru?
Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Fymhleidlaisi (Comisiwn Etholiadol).


Dwi’n Was y Goron, cyflogai’r Cyngor Prydeinig neu aelod o’r Lluoedd Arfog wedi fy lleoli dramor – ydw i’n cael cofrestru i bleidleisio?
Mae Gweision y Goron, cyflogeion y Cyngor Prydeinig ac aelodau’r Lluoedd Arfog sydd wedi eu lleoli dramor yn cael pleidleisio ym mhob etholiad ac felly angen cofrestru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Fymhleidlaisi (Comisiwn Etholiadol).


Dwi wedi symud i fyw dramor yn ddiweddar. Ydw i’n dal i gael pleidleisio yn y Deyrnas Unedig?
Os ydych yn mynd dramor i fyw, gallwch gofrestru i bleidleisio mewn Etholiadau Seneddol ac Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig. Gallwch fyw dramor am hyd at 15 mlynedd a chadw'ch hawl i bleidleisio yn y Deyrnas Unedig, ond rhaid i chi lenwi ffurflen 'dramor' bob blwyddyn. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Fymhleidlaisi (Comisiwn Etholiadol).