Parcio am ddim dros y Nadolig

Dyddiad: 24/11/2023
Parcio Nadolig

Parcio am ddim dros y Nadolig

Fel rhan o ymdrechion i gefnogi busnesau lleol y Nadolig yma, mae Cyngor Gwynedd yn cynnig parcio am ddim yn ei holl feysydd parcio o 9 tan 26 Rhagfyr.

Bydd parcio am ddim yn holl feysydd parcio’r Cyngor o 11am bob dydd yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig er mwyn annog pobl Gwynedd i gefnogi busnesau lleol y sir.

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Mae cyfnod y Nadolig yn gyfnod hynod bwysig i’r sector siopau ac adloniant, ac felly mae’n bwysig ein bod yn gwneud pob ymdrech i gefnogi ein busnesau lleol.

“Dyna pam fod Cyngor Gwynedd yn cynnig parcio am ddim yn ein meysydd parcio bob diwrnod, o 11am ymlaen rhwng 9 a 26 Rhagfyr. 

“Trwy wneud hynny, rydym yn gobeithio y bydd trigolion Gwynedd a thu hwnt yn cefnogi’r amrywiaeth o fusnesau bach sy’n asgwrn cefn ein cymunedau. Nid yn unig bydd hynny’n hwb i’r economi leol, ond bydd hefyd yn dangos nad oes angen teithio’n bell i wneud eich siopa Nadolig.

“Felly, os ydych chi’n chwilio am anrhegion arbennig, yn prynu bwyd a diod ar gyfer y dathliadau Nadoligaidd, cofiwch am y cyfoeth o fusnesau bach a chrefftwyr lleol yma yng Ngwynedd, a gwnewch y mwyaf o’r parcio am ddim.”

Mae gwybodaeth am yr amrywiaeth o ddanteithion sydd ar gael o lawer iawn o fusnesau Gwynedd i’w gweld yma: www.visitsnowdonia.info/cy/siopau-cynnyrch-lleol

Bydd parcio am ddim ym meysydd parcio cyhoeddus Cyngor Gwynedd ar ôl 11am bob dydd rhwng 9 a 26 Rhagfyr, gyda ffioedd yn ail-gychwyn o 27 Rhagfyr.

Ymgyrch ym meysydd parcio cyhoeddus Cyngor Gwynedd ydi hwn. Bydd arwydd ar bob peiriant talu ac arddangos ym meysydd parcio cyhoeddus y Cyngor, felly os nad oes nodyn i’w weld, dylech wirio os ydi o’n faes parcio’r Cyngor.

Mae lleoliad holl feysydd parcio Cyngor Gwynedd ar gael ar-lein: www.gwynedd.llyw.cymru/parcio

 

NODYN:

Dylai unrhyw un sy’n parcio mewn maes parcio sy’n eiddo i gorff arall wirio’r trefniadau yn ofalus cyn parcio gan ei bod yn bosib na fydd parcio am ddim ar gael yno.