Gwasanaeth Bws Sherpa'r Wyddfa'n cyrraedd rhestr fer dwy wobr genedlaethol arall

Dyddiad: 01/11/2023

Mae Gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa, un o wasanaethau bws mwyaf poblogaidd Gwynedd wedi cyrraedd rhestr fer dwy o wobrau cystadleuaeth Gwobrau Bws y Deyrnas Gyfunol.

Daw hyn yn dilyn cyrraedd rownd derfynol yng ngwobrau Trafnidiaeth y Deyrnas Gyfunol yn ddiweddar.

Mae’r gwasanaeth ymhlith yr enwebai ar gyfer gwobr Bysiau Hamdden yn ogystal â gwobr Mynd am Dwf (Going for Growth) a noddir gan Intsol. Arweinir Gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa gan bartneriaeth sy’n cynnwys Cyngor Gwynedd, Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Rydw i’n hynod falch bod Sherpa’r Wyddfa yn derbyn cydnabyddiaeth am y gwasanaeth ar ei newydd wedd.

“Mae’r llwyddiant yn dangos sut y gellir moderneiddio gwasanaethau trafnidiaeth er mwyn cwrdd ag anghenion defnyddwyr mewn cyfnod heriol. Mae’r gwasanaeth yn cyfuno siwrneiau sy’n galluogi trigolion Gwynedd i gwblhau teithiau dydd-i-ddydd pwysig, gydag adnodd teithio defnyddiol i bobl sy’n ymweld â'r ardal.

 

“Diolch i gynllunio gofalus, mae llawer iawn o bobl yn gwneud defnydd o’r Sherpa, sy’n cynnig rhwydwaith ardderchog o wasanaethau bws i'w cludo o amgylch Eryri mewn modd cynaliadwy.”

 

Trawsnewidwyd Gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa yn ôl ym mis Ebrill 2022. Ers hynny darperir gwasanaethau rheolaidd sy’n cysylltu mynyddoedd Eryri gyda’r môr, yn ogystal â gwasanaethau ychwanegol mewn mannau lle gwelir lefelau uchel o bobl yn ymweld â chyrchfannau poblogaidd yr ardal. 

 

Mae’r ymateb i’r gwasanaeth ar ei newydd wedd wedi bod yn hynod gadarnhaol gyda chynnydd o 31% yn nifer y defnyddwyr dros y deuddeg mis cyntaf.

 

Mae Gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa yn rhedeg yn rheolaidd gan gysylltu llwybrau poblogaidd o amgylch Yr Wyddfa sydd yn galluogi unrhyw un sydd eisiau mwynhau mynyddoedd Eryri ac atyniadau poblogaidd lleol eraill i allu parcio eu cerbydau mewn meysydd parcio priodol.

 

Cynhelir seremoni Gwobrau Bws y DG yn Llundain ar ddydd Mawrth, 28 Tachwedd.

 

Am ragor o wybodaeth am Sherpa’r Wyddfa ewch i www.sherparwyddfa.cymru