Diwrnod Rhuban Gwyn 2023

Dyddiad: 25/11/2023
Mae Cyngor Gwynedd yn nodi diwrnod rhyngwladol yr ymgyrch i ddileu trais yn erbyn merched a genethod, a hynny fel sefydliad achrededig Rhuban Gwyn.

Elusen i annog ac addysgu dynion a bechgyn i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben ydi Rhuban Gwyn ac fel rhan o’r achrediad, mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i weithio i’r diben yma.

Fel awdurdod lleol, mae’r Cyngor yn gyfrifol am iechyd a lles staff a’r gymuned ehangach, ac mae gwerthoedd ymgyrch Rhuban Gwyn yn ganolog i hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am faes Adnoddau Dynol: “Mae gan Gyngor Gwynedd enw da fel lle da i weithio gydag awyrgylch gyfeillgar a chefnogol. Mae ennill yr achrediad hwn yn dangos ein bod yn cymryd mater trais yn erbyn menywod o ddifri ac yn defnyddio ein safle i ddylanwadu a gwneud gwahaniaeth yn fewnol ac yn allanol.

“Drwy ymgysylltu â dynion a bechgyn – sy’n staff neu’n ddefnyddwyr gwasanaeth – gallwn godi ymwybyddiaeth a newid diwylliant am yr angen i sicrhau diogelwch ac urddas merched.” Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch Rhuban Gwyn, ewch i’w gwefan: White Ribbon UK