Cyfle i gymryd rhan yn ymgynghoriad Amcanion Cydraddoldeb Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 29/11/2023

Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i’r cyhoedd gyfrannu at broses fydd yn helpu i sicrhau tegwch i bawb wrth i’r awdurdod gynllunio gwasanaethau ac adnoddau i’r dyfodol.

Mae cyfle i bobl gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar Amcanion Cydraddoldeb y Cyngor, fydd yn sail ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28.

Lluniwyd yr Amcanion drafft yn dilyn proses ymgysylltu drylwyr, gyda cannoedd o bobl o grwpiau nodweddion gwarchodedig yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cymryd rhan yn y broses. Mae cyfle pellach nawr i bobl o bob rhan o sir ac o bob cefndir i roi eu barn ar y drafft a bydd yr holl sylwadau yn cael eu hystyried cyn i’r cynllun terfynol gael ei fabwysiadu yn y flwyddyn newydd.

Mae Cabinet y Cyngor yn gofyn i bobl rannu eu meddyliau drwy lenwi holiadur byr neu anfon sylwadau ysgrifenedig at y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Adran Cefnogaeth Gorfforaethol y Cyngor: “Mae materion cydraddoldeb yn berthnasol i bawb – mae gan bob un ohonom oedran, credoau, rhywioldeb a phob math o nodweddion eraill sy’n effeithio ar sut rydym yn byw ein bywydau a’r anghenion sydd gennym. Mae cael Cynllun Cydraddoldeb addas mewn lle yn hanfodol er mwyn helpu tuag at hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl.

“Mae diddymu gwahaniaethu yn flaenoriaeth i ni yng Nghyngor Gwynedd a dyna pam rydw i’n gofyn i bobl gymryd ychydig funudau i ymateb i’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau fod y cynllun fydd gennym yn addas a fod y materion hyn yn parhau i gael eu cymryd i ystyriaeth wrth i’r Cyngor wneud ei waith i’r dyfodol.”

Er mwyn llunio’r Amcanion Cydraddoldeb drafft, sy’n sail ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb, bu swyddogion y Cyngor yn ymweld â nifer o grwpiau a gweithgareddau er mwyn siarad â phobl amrywiol. Er enghraifft, cynhaliwyd sesiynau gyda phobl anabl, pobl ifanc, ac roedd presenoldeb yn digwyddiad Pride Gogledd Cymru.

Ychwanegodd y Cynghorydd Menna Trenholme: “Dwi’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd y cyfle hyd yma i fod yn rhan o’r broses am y croeso dderbyniodd ein swyddogion wrth ymweld a gwahanol grwpiau. Mae mewnbwn pob unigolyn wedi bod yn werthfawr tuag at lunio ein amcanion.

“Mae cyfle nawr i bobl ddarllen drwy’r amcanion drafft a rhoi eu sylwadau. Gellir gwneud hynny drwy lenwi holiadur byr naill ai ar-lein neu ar bapur, neu os ydyw’n well gan bobl mae modd anfon e-bost neu lythyr at y Cyngor.

“Bydd ein swyddogion yn trefnu i ymweld a rhagor o grwpiau sy’n cynrychioli diddordeb grwpiau nodweddion gwarchodedig. Os ydych yn aelod o grŵp neu fudiad o’r fath ac yr hoffech gyfrannu, os gwelwch yn dda dewch i gyswllt fel gall ein swyddogion drefnu sgwrs.”

Mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:                                                                                                                

  • Llenwch yr holiadur ar-lein ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/HoliadurAmcanionCydraddoldebDrafft
  • I dderbyn copi papur o’r holiadur, neu mewn iaith neu fformat arall, ffoniwch 01286 679708 neu ebostiwch cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru
  • Bydd copïau papur ar gael hefyd yn Llyfrgelloedd Gwynedd a Siopau Gwynedd (Pwllheli, Caernarfon a Dolgellau) o wythnos nesaf (4 Rhagfyr) ymlaen.
  • Llenwi’r holiadur ydi’r ffordd fwyaf rhwydd i leisio barn ond mae croeso hefyd i aelodau o’r cyhoedd anfon sylwadau ar e-bost i: cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru neu trwy lythyr: Ymgynghoriad Amcanion Cydraddoldeb, Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, Swyddfeydd Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH.
  • I wneud cais i Swyddog o’r Cyngor ddod i gyfarfod eich grŵp/mudiad i egluro mwy, cysylltwch â cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru / 01286 679708.

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd Cabinet y Cyngor yn rhoi ystyriaeth bellach i’r Amcanion Cydraddoldeb newydd yn gwanwyn 2024.