Ailddatblygu Ardal Harbwr Pwllheli: Sesiwn Galw Heibio

Dyddiad: 24/11/2023

Wedi ymateb cadarnhaol iawn i gyfarfodydd ymgynghori ac arolygon ar-lein, mae drafft cyntaf yr adroddiad ar gyfer trawsnewid ardaloedd Glandon a’r Harbwr ym Mhwllheli wedi'i ddatblygu.

Bydd sesiwn galw heibio derfynol yn cael ei gynnal dechrau mis Rhagfyr fel y gall aelodau o’r cyhoedd ddysgu mwy am y cynlluniau cyffrous ar gyfer ardaloedd Glandon, Cei’r Gogledd, yr Hen Ynys a’r Harbwr Mewnol ac Allanol ym Mhwllheli. Bydd ymgynghorwyr a swyddogion Cyngor Gwynedd ar gael i ateb cwestiynau am y cynlluniau. 

 

Manylion y digwyddiad 'galw heibio' cyhoeddus:

Lleoliad: Academi Hwylio Genedlaethol Plas Heli, Pwllheli

Dyddiad: Dydd Mercher, 6 Rhagfyr 2023

Amser: 4pm - 8:30pm

 

Yn dilyn y broses hon, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd i ddatblygu cynllun strategol hirdymor er budd y gymuned leol.