Trefniadau gwastraff yng Ngwynedd dros gyfnod y Nadolig

Dyddiad: 08/12/2023
Diwrnod Nadolig a Gŵyl San Steffan ydi’r unig ddau ddiwrnod o’r flwyddyn pan nad ydi casgliadau gwastraff ac ailgylchu arferol Cyngor Gwynedd yn cael eu cynnal.

 

Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi y gall hyn achosi niwsans i bobl fyddai fel arfer yn cael casgliad ar ddydd Llun, 25 Rhagfyr neu ddydd Mawrth, 26 Rhagfyr. Dyma pam fod trefniadau wedi eu gwneud i gasglu gwastraff gweddilliol (bin gwyrdd neu fagiau du) ar ddyddiau eraill yn y cyfnod er mwyn sicrhau nad oes neb yn mynd am gyfnod hir heb gasgliad. 

 

Bydd rheini fydd yn methu casgliad gwastraff gweddilliol ar ddydd Nadolig yn derbyn casgliad ar ddydd Sadwrn, 23 Rhagfyr, a chartrefi fydd yn methu casgliad ar ddydd San Steffan yn cael casgliad ar ddydd Sadwrn, 30 Rhagfyr. Bydd casgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd a’r rheini sy’n cael casgliad bagiau melyn yn digwydd yr wythnos ganlynol.

 

Er ei bod yn ŵyl banc, bydd casgliadau arferol i bawb fydd yn cael casgliad ar ddydd Llun, 1 Ionawr 2024.

 

Bydd rhwydwaith canolfannau ailgylchu Cyngor Gwynedd yn agored dros gyfnod yr Wyl i helpu trigolion ailgylchu a chael gwared ar eu sbwriel tymhorol ychwanegol yn gyfleus a didrafferth. Er mwyn ei gwneud mor rhwydd â phosib i drigolion Gwynedd ailgylchu eu gwastraff, ni fydd angen gwneud apwyntiad i fynychu’r canolfannau ailgylchu dros gyfnod y Nadolig.

 

Mae’r canolfannau ailgylchu ar agor tan hanner dydd ar 23 Rhagfyr, yn ail-agor ar ôl y Nadolig ar ddydd Mercher, 27 Rhagfyr. Bydd y canolfannau ar gau ar Ddydd Calan ac yna ar agor o 2 tan 6 Ionawr pan na fydd angen gwneud apwyntiad. Mae manylion llawn eich canolfan leol ar gael ar ‘apGwynedd’ ar eich ffôn clyfar neu ddyfais llechen neu trwy fynd i www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu

 

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

 

“Tra bod yna lawer y gallwn i gyd ei wneud i ail-ddefnyddio a cheisio torri lawr ar wastraff di-angen wrth baratoi at y Nadolig, fe wyddwn ni fod cyfnod y dathlu yn aml yn golygu fod mwy o sbwriel ac ailgylchu na’r arfer yn hel mewn cartrefi.

 

“Er mwyn helpu teuluoedd dros gyfnod y Nadolig ac i wneud yn siŵr fod pawb yn gallu gwneud eu rhan dros yr amgylchedd, rydan ni’n annog pobl Gwynedd i wneud y mwyaf o ganolfannau ailgylchu’r Cyngor. Fel y llynedd, ni fydd angen trefnu apwyntiad dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i fynychu’r canolfannau.

 

“Rydan ni’n gwybod fod y canolfannau ailgylchu yn gallu bod yn brysur iawn yr adeg yma o’r flwyddyn, felly os ydi’r safle’n brysur pan ewch chi draw, yna ystyriwch os byddai’n fwy synhwyrol dychwelyd ar gyfnod distawach. Mae’r canolfannau ailgylchu ar agor o 9am tan 4pm, ond cofiwch wirio dyddiau agor eich canolfan leol chi cyn mynd draw.

 

“Mae cyngor a gwybodaeth am ailgylchu a manylion am eich canolfan leol a’ch dyddiadau casglu ar gyfer y flwyddyn hefyd ar gael ar www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu.”

 

Am fwy o wybodaeth am wasanaethau ailgylchu a gwastraff y Cyngor, gan gynnwys oriau agor eich canolfan ailgylchu leol ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu neu os nad oes gennych fynediad i’r we, gallwch ffonio 01766 771000.

 

Nodiadau:

 

  • Manylion llawn am oriau agor y canolfannau ailgylchu dros gyfnod y Nadolig yng Ngwynedd:

 

  • 23 Rhagfyr – pob canolfan ailgylchu ar agor o 9am tan hanner dydd;
  • 24 Rhagfyr tan 26 Rhagfyr – pob canolfan ailgylchu ar gau;
  • 27 Rhagfyr tan 30 Rhagfyr – canolfannau ar agor fel arfer (9am tan 4pm);
  • 31 Rhagfyr tan 1 Ionawr – pob canolfan ailgylchu ar gau;
  • 2 tan 6 Ionawr – canolfannau ar agor fel arfer (9am tan 4pm);
  • 8 Ionawr ymlaen – canolfannau ar agor fel arfer (trefn apwyntiadau yn ail-ddechrau).

 

*Noder mai ar ddydd Llun, Gwener a Sadwrn yn unig mae canolfannau ailgylchu’r Bala a Blaenau Ffestiniog ar agor.

 

  • Manylion llawn am gasgliadau gwastraff cyffredinol, ailgylchu a gwastraff bwyd dros gyfnod y Nadolig yng Ngwynedd:

 

  • Dydd Sadwrn, 23 Rhagfyr – Casgliad gwastraff cyffredinol (bin olwyn gwyrdd/sach ddu) i bawb fyddai fel arfer yn cael casgliad ar ddydd Llun, 25 Rhagfyr;
  • Dydd Sadwrn, 30 Rhagfyr – Casgliad gwastraff cyffredinol (bin olwyn gwyrdd/sach ddu) i bawb fyddai fel arfer yn cael casgliad ar ddydd Mawrth, 26 Rhagfyr;
  • Dydd Mercher, 27 Rhagfyr ymlaen (gan gynnwys dydd Llun, 1 Ionawr) – holl wastraff yn cael ei gasglu yn ôl yr arfer.