Meddalwedd Boardmaker yn Llyfrgelloedd Gwynedd

Dyddiad: 05/12/2023
Boardmaker Caernarfon

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd wedi gosod meddalwedd Boardmaker ar rai o gyfrifiaduron cyhoeddus llyfrgelloedd y sir, fel bod modd i unigolion a theuluoedd greu taflenni cyfathrebu gan ddefnyddio ‘Picture Communication Symbols® (PCS)’ i greu taflenni unigryw i’w plentyn neu aelod o’r teulu.

Casgliad o luniau a symbolau yw Boardmarker a ddefnyddir ar gyfer cyfathrebu gyda’r rheini sy’n ddysgwyr gweledol cryf neu’n unigolion di-eiriau. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd â chyflyrau anhwylderau sbectrwm awtistiaeth, anableddau dysgu, anhwylderau lleferydd ac iaith, ac anhwylderau ymddygiad. 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Bennaeth Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd:

“Mae hwn yn adnodd gwerthfawr iawn, ac ar gael trwy gyfrifiaduron penodol yn Llyfrgelloedd Caernarfon, Porthmadog a Dolgellau. Byddwn yn annog teuluoedd i gysylltu gyda’r llyfrgelloedd yma os ydynt eisiau galw draw i’w ddefnyddio ac fe wnaiff y llyfrgell sicrhau fod slot amser yn cael ei neilltuo iddynt.”

Meddai’r Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd Cyngor Gwynedd: 

“Rwyf yn hynod falch fod Llyfrgelloedd Gwynedd wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i fy nghais i roi mynediad i bobl Gwynedd at feddalwedd arbennig ac rwyf yn croesawu’r ddarpariaeth hwn yn arw.

“O ymweld efo teuluoedd sy’n defnyddio gwasanaethau Cyngor Gwynedd, rwyf yn ymwybodol fod y cardiau yn cael eu defnyddio gan wasanaethau yn y gymuned. Bydd y ffaith fod teuluoedd yn gallu cael mynediad at Boardmaker i greu cardiau eu hunain, yn eu cynorthwyo i gyfathrebu gyda’u plant, gan greu cardiau arbennig iddynt hwy, a gellir eu hargraffu hefyd mewn lliw yn y Llyfrgell.”

Gellir cysylltu gyda’r llyfrgelloedd perthnasol drwy e-bost neu ffôn:

Llyfrgell Caernarfon LlCaernarfon@gwynedd.llyw.cymru 01286 679463

Llyfrgell Porthmadog LlPorthmadog@gwynedd.llyw.cymru 01766 514091

Llyfrgell Dolgellau LlDolgellau@gwynedd.llyw.cymru 01341 422771