Llwybr teithio llesol ar Ffordd Penrhos ym Mangor

Dyddiad: 05/12/2023
Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau £1.2 miliwn o gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu llwybr teithio llesol ar Ffordd Penrhos ym Mangor.

 

Mae gwaith wedi cychwyn yn yr wythnosau nesaf ar wedd gynta’r cynllun rhwng cyffyrdd Coed Mawr a Choed y Maes.

 

Bydd y cynllun yn gymorth i dorri lawr ar deithiau ceir yn yr ardal gyda gwelliannau sylweddol fydd yn annog pobl i gerdded a beicio i ysgol, wrth gyrraedd y gwaith, ysbyty ac ati.

 

Mae mwy am y cynlluniau i’w gweld yma www.gwynedd.llyw.cymru/FforddPenrhos